Record byd i Thomas

Tîm ras ymlid Prydain
Roedd Geraint Thomas yn aelod o'r pedwarawd llwyddiannus

Roedd Geraint Thomas yn aelod o dîm seiclo Prydain a dorrodd record byd yn eu ras rhagbrofol yn y Gemau Olympaidd.

Roedd tîm y dynion yn y ras ymlid i dimau yn cystadlu i geisio cyrraedd y rownd nesaf dros 4000m.

Cwblhaodd y tîm y ras mewn amser o 3mun 52.499eiliad gan dorri'r record a osodon nhw eu hunain o 3:53.295 yn Awstralia ym mis Ebrill.

Y pedwar oedd Geraint Thomas, Ed Clancy, Steven Burke a Peter Kennaugh.

Bydd y tîm yn mynd ymlaen i'r rownd gyntaf go iawn yn y felodrôm brynhawn Gwener, gyda llawer yn rhagweld y bydd Prydain - a Thomas - yn ffefrynnau am fedal aur.