Tân mewn ysgubor: Anafu dyn

Injan dân (cyffredinol)

Mae dyn wedi cael ei anafu mewn tân mewn ysgubor ym mhentref Pengelli-ddrain ger Gorseinon.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod criwiau o Dreforys, Llanelli a thancer dŵr o'r Tymbl wedi mynd i'r afael â'r tân.

Cawsant eu galw am 1.13pm ddydd Iau.

Roedd gwellt, teiars a pheth tanwydd yn yr ysgubor.