Bywyd cynaliadwy a thair erw arbennig ar y Maes

Maes Gwyrdd
Mae Maes Gwyrdd yn rhan o Faes yr Eisteddfod

Mae 'na dair erw ar Faes yr Eisteddfod wedi eu clustnodi ar gyfer gweithgareddau ecolegol, addysgiadol ac adloniadol.

Nod Maes Gwyrdd yw "cyfuno'r gorffennol, y presennol a phosibiliadau''r dyfodol" mewn un lle.

Jill Davies a Nathan Williams gafodd y syniad ac ar ô Eisteddfod Blaenau Gwent ddwy flynedd yn ôl fe drafodon nhw'r syniad gyda'r Eisteddfod.

"Dwi'n dod i'r Eisteddfod bob blwyddyn ers 10 mlynedd ac wedi dwlu bob tro," meddai Jill.

"Dwi'n cael bod yn rhan o'r byd Cymraeg ac fel dysgwyr mae cael y profiad o siarad Cymraeg yn bwysig.

"Ond dwi eisiau byw mewn byd gwyrdd heb blastig, heb gyfalafiaeth. Mae'r byd yn newid a dwi'n gweld yr Eisteddfod yn newid hefyd."

Codi ymwybyddiaeth

Maes Gwyrdd
Un o'r melinau gwynt ar y Maes

Dywedodd fod angen dangos i bobl fod bywyd cynaliadwy ar gael gan fod costau byw bwyd ac olew yn ddrud.

"Mae angen newid nawr," meddai.

Yn ystod yr wythnos mae 'na nifer o atyniadau a digwyddiadau ar y Maes Gwyrdd, gerddi a phlanhigion, gweithdai gwnio a gwau, crefftau traddodiadol, caffi, paneli solar a melinau gwynt.

"Mae lot o bobl wedi bod yn gweld y gwahanol atyniadau a'r arddangosfeydd," meddai Jill.

"Dwi mor falch o weld y datblygiad yma ar y Maes.

"Dwi'n gobeithio y byddwn yn rhan o'r Eisteddfodau nesa' ac y gallwn ni ddatblygu'r Maes Gwyrdd."