Cooke 'am wneud ei gorau glas' yn ras seiclo'r menywod

  • 29 Gorffennaf 2012
Nicole Cooke
Nicole Cooke: Medal aur arall?

Mae'r gobeithion yn uchel y bydd y seiclwr Nicole Cooke yn ennill medal aur arall yn y Gemau Olympaidd.

Cyn y ras dywedodd Cooke ei bod "am wneud ei gorau glas" yn ras seiclo'r menywod yn y Chwareon Olympaidd.

"Mae'n anodd iawn proffwydo oherwydd bod cymaint o ffactorau ar waith yn ystod y ras.

"Ond dwi'n bwriadu gwneud fy ngorau glas.

'Tactegau gorau'

"Mae'r paratoadau wedi bod yn dda iawn a byddwn ni'n defnyddio'r tactegau gorau."

Ymuno y mae pencampwraig Gemau Beijing yn 2008 â Lizzie Armistead, Lucy Martin ac Emma Pooley yn nhîm seiclo Merched Prydain.

Dechreuodd y ras 140 o gilomedrau am hanner dydd yn The Mall.

Mae'r 66 yn croesi Afon Tafwys ac yn mynd trwy Richmond Park, Bushy Park a heibio Palas Hampton Court.

'Yn eithriadol'

Wedyn maen nhw'n rasio trwy Leatherhead, Esher, Kingston-upon-Thames a Richmond Park cyn cyrraedd The Mall.

"Mae ei gobeithion hi'n uchel," meddai David Bullen, landlord tafarn y Lamb and Flag yn y pentre' lle mae'n byw, Y Wig ym Mro Morgannwg.

"Yn y gorffennol mae ei pherfformiad wedi bod yn eithriadol.

"Rydyn ni i gyd yn gobeithio y bydd hi'n cael y fedal."

Eto mae Cooke wedi dweud taw'r tîm sy'n dod yn gynta'.

'Yn hanfodol'

"Fe fydd pob aelod yn helpu ei gilydd ... fe fydd cyfnodau yn ystod y ras pan fydda i'n 'aberthu' er mwyn helpu aelod arall.

"Rwy'n disgwyl i aelodau eraill wneud yr un peth. Mae hyn yn hanfodol yn ystod ras."

Yn 2008 y Gymraes 29 oed oedd yr athletwr cynta' o Gymru i ennill medal aur ers 36 o flynyddoedd.