Cyhuddo dyn o lofruddio dyn yn Nhreboeth, Abertawe

  • 28 Gorffennaf 2012
David Gary Edwards Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Cafwyd hyd i gorff David Gary Edwards nos Fercher

Mae ditectifs wedi cyhuddo dyn 33 oed o Bort Talbot o lofruddio dyn 48 oed yn Abertawe.

Cafodd heddlu arfog eu galw i fflat yn Villa Terrace yn Nhreboeth am 6.50pm nos Fercher.

Fe gafodd corff David Gary Edwards ei ddarganfod.

Mae'r dyn gerbron Ynadon Abertawe fore Sadwrn.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.