Llundain 2012: Caerdydd yn cynnal dwy gêm arall

  • 28 Gorffennaf 2012
Stephanie Houghton
Yn y stadiwm curodd Tîm Pêl-droed Merched Prydain Seland Newydd 1-0 ddydd Mercher

Mae Merched Brasil wedi trechu Seland Newydd Brasil 1-0 Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm.

Roedd rhybudd y dylai cefnogwyr gyrraedd yn gynnar wedi problemau chwilio bagiau a chiwio am docynnau yn y stadiwm ddydd Mercher a dydd Iau.

Curodd merched Prydain Seland Newydd 1-0 yn y stadiwm ddydd Mercher.

Ffyrdd ynghau

Roedd ffyrdd o gwmpas y stadiwm ynghau rhwng hanner dydd ac 8pm.

Bydd chwe gêm bêl droed arall yn y stadiwm yn ystod y Gemau Olympaidd, gan gynnwys yr un rhwng Tîm Pêl-droed Dynion Prydain ac Uruguay.

Ar ôl y gemau yn y brifddinas ddydd Iau dywedodd Cadeirydd Llundain 2012 Yr Arglwydd Coe ei fod yn teimlo bod Caerdydd yn "ddinas Olympaidd".

Dywedodd masnachwyr eu bod yn credu bod y gemau pêl-droed wedi hybu eu busnesau "yn ystod cyfnod anodd".

Sgriniau mawr

Nos Wener roedd mwy na 50 o blant ysgol o Gymru yn yr osgordd er anrhydedd wrth i athletwyr gyrraedd y Stadiwm Olympaidd ar gyfer y seremoni agoriadol.

Ac fe glywyd lleisiau aelodau Only Kids Aloud yn canu Cwm Rhondda yn ystod y seremoni.

Ym Mharc Eirias, Bae Colwyn ac yn Abertawe a Chaerdydd roedd miloedd yn gwylio'r seremoni ar sgriniau mawr.

Ym Mae Colwyn roedd cyngerdd lle oedd Mike Peters o'r Alarm, Sophie Evans o'r Wizard of Oz, Côr Glanaethwy a'r mezzo soprano Sioned Terry yn perfformio.

Brynhawn Gwener roedd tîm y Red Arrows wedi hedfan dros Gymru, gan ddechrau o Ganolfan yr Awyrlu yn Y Fali am 3.58pm a chyrraedd Caerdydd 23 munud yn ddiweddarach.