Team GB 1-1 Senegal (Dynion)

  • 26 Gorffennaf 2012
Craig Bellamy yn dathlu ei gôl
Image caption Craig Bellamy yn dathlu ei gôl

Cafodd Tîm Pêl-droed Dynion Prydain gêm gyfartal 1-1 yn erbyn Senegal nos Iau yn Old Trafford, Manceinion.

Y Cymro Craig Bellamy sgoriodd gyntaf a hynny gydag ergyd gelfydd wedi 20 munud ar ôl i'w gydwladwr, y capten Ryan Giggs ei ganfod o gic rydd.

Dyma oedd gôl gyntaf Prydain Fawr ers 1960.

Ni wnaeth Prydain ddigon i ladd y gêm yn yr ail hanner gyda diffyg awch yn ei chwarae, ac fe gawsant eu cosbi am hynny.

Gyda Bellamy yn cael ei lorio gwrthododd y dyfarnwr â rhoi cic o'r smotyn i'r tîm cartref.

Fe ddaeth Moussa Konate â'r sgôr yn gyfartal wedi 82 munud ar ôl derbyn pas wych, gan godi'r bêl yn ddeheuig dros y gôl-geidwad Jack Butland.

Nawr bydd yn rhaid i Brydain guro Yr Emiraethau Arabaidd Unedig neu Uruguay, ac o bosib y ddau, i gyrraedd y rowndiau olaf.

Yn y gêm yn Stadiwm y Mileniwm nos Iau, fe wnaeth Brasil faeddu Yr Aifft 3-2.

Straeon perthnasol