Holi dau ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi ffrwgwd ym Mhrestatyn

  • 23 Gorffennaf 2012
Jonathan Sillett
Bu farw dyn lleol 43 oed, Jonathan Sillett, ym Mhrestatyn nos Sadwrn

Mae dau wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddiaeth wedi ffrwgwd ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych.

Bu farw dyn lleol 43 oed, Jonathan Sillett, yn y dref nos Sadwrn ac mae'r heddlu'n holi dyn 22 oed a dynes 21 oed.

Roedd "digwyddiad difrifol" yn ardal Ffordd y Traeth tu ôl i le cafodd y ffair a'r carnifal eu cynnal yn gynharach yn y dydd.

Mae'r heddlu'n cynnig cefnogaeth i deulu Mr Sillett.

Post mortem

Dros y penwythnos mae'r heddlu wedi sefydlu ystafell ymchwilio.

Cafodd y crwner ei hysbysu ac mae archwiliad post mortem yn cael ei gynnal.

"Roedd 'na nifer o gerbydau yn yr ardal ar y pryd ac mae'r heddlu yn awyddus i glywed gan unrhyw un o'u perchnogion," meddai'r Ditectif Brif Arolygydd Graham Talbot.

"Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda thîm plismona'r gymuned ..."

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai gysylltu gyda Heddlu Gogledd Cymru ar 101 neu Taclo'r Tacle'n ddi-enw ar 0800 555 11.