Cerddwr yn cael ei gludo fynydd wedi torri'i ffer

  • 15 Gorffennaf 2012
Cnicht mountain
Digwyddodd y ddamwain ger mynydd Cnicht yn Eryri

Cafodd llanc oedd yn rhan o weithgaredd Gwobrau Dug Caeredin yn Eryri ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd gydag amheuaeth ei fod wedi torri ei ffêr.

Roedd y llanc 17 oed yn rhan o grŵp oedd yn cerdded i lawr mynydd i'r dwyrain o Feddgelert ddydd Sadwrn.

Daeth aelodau o dîm achub mynydd Aberglaslyn i roi cymorth iddo tan i'r hofrennydd gyrraedd o'r Fali i'w gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.

Dywedodd aelodau o'r tîm bod y tir yn wlyb ofnadwy ac yn beryglus o dan draed.

Roedd chwe pherson yn y grŵp oedd yn cerdded, a'r gred yw eu bod o sir Northampton.

Digwyddodd y ddamwain ger mynydd Cnicht am tua 5:20pm ddydd Sadwrn, a dywedodd Iwan ap Trefor o'r tîm achub:

"Mae'r tir yn wlyb ofnadwy, ac maen nhw (y rhai ar gynllun Dug Caeredin) yn cario cryn dipyn o bwysau.

"Roedd hi'n sych ddoe mewn gwirionedd, ond fe gawson ni llawer o law ddydd Gwener, ac rydym wedi cael cymaint o law dros y ddeufis diwethaf hefyd.

"Fe wnaethon ni ei rwymo a'i gludo i'r hofrennydd fel y gallai gael ei gludo i'r ysbyty."