Gwefan newydd yn 'hwb i dref'

Blaenau Ffestiniog Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Mae'r wefan yn cynnwys gwybodaeth am atyniadau lleol a llety, ac yn rhoi sylw amlwg i hanes y diwylliant y dref.

Mae gwefan newydd wedi cael ei lansio fel rhan o gynllun i adfywio Blaenau Ffestiniog, Gwynedd a'i hybu fel canolfan ragoriaeth gweithgareddau awyr agored.

Fe fydd www.blaenauffestiniog.org yn cynnwys gwybodaeth am atyniadau lleol a llety, ac yn rhoi sylw amlwg i hanes y diwylliant y dref.

Mae gwirfoddolwyr o fudiadau ar hyd y dref wedi bod yn gweithio i ddarparu cynnwys ar gyfer y wefan.

Mae'r Gymdeithas Hanes yn darparu gwybodaeth am hanes yr ardal ac Antur Stiniog yn darparu gwybodaeth am weithgareddau awyr agored.

Mae'n rhan o brosiect £4.4m a ariannir gan yr Undeb Ewropeaidd, Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.

Datblygwyd y wefan, a gostiodd £3,955, gan gwmni Delwedd o Gaernarfon.

'Toreth o wybodaeth'

"Mae'r wefan yn darparu toreth o wybodaeth am yr ardal, gan gynnwys clipiau fideo, galeri a blog" meddai Andrew Roberts, cadeirydd y Siambr Fasnach yn y dref.

"Bydd yn ddefnyddiol iawn i fusnesau, trigolion a thwristiaid sydd am ddysgu mwy am yr ardal, neu am weld beth sydd gan yr ardal i gynnig neu ganfod mwy am hanes y dref. "

Dywedodd Adrian Bradley o Antur Stiniog: "Mae hi wedi bod yn wych cael bod yn rhan o'r cynllun yma i hybu Blaenau fel cyrchfan awyr agored".

Gall busnesau o ardal 'Stiniog ymuno gyda'r Siambr Fasnach ar y wefan.

"Dwi'n gobeithio y bydd y wefan yn gyfle i'r Siambr ddenu mwy o bobl i fod yn rhan o'r grŵp ac y byddwn yn gryfach oherwydd hyn" ychwanegodd Bob Cole o Blaenau Ymlaen.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.