Cysylltiad Iolo Morganwg â'r Fro a Gorsedd Y Beirdd

Cofeb i Iolo Morganwg ar wal ar Stryd Fawr Y Bont-Faen

Enw sy'n cael ei gysylltu â Bro Morgannwg a'r Eisteddfod Genedlaethol yw Edward Williams.

Ond mae'n fwy adnabyddus o dan ei enw barddol, Iolo Morgannwg.

Caiff ei gyfri fel yr un a greodd Gorsedd y Beirdd.

Un o bentre' Trefflemin oedd o ac fe gafodd ei fagu ar aelwyd Saesneg ei hiaith.

O ran ei alwedigaeth a'i grefft, roedd yn saer maen a fu'n gweithio ar hyd a lled Cymru ac yn Llundain.

Bu hefyd yn cadw siop lyfrau yn Y Bont-faen ac yn dipyn o gymeriad.

Radicalydd

Yn Llundain daeth i gysylltiad â Chymdeithas y Gwyneddigion a dechreuodd droi mewn cylchoedd diwylliannol a radical wedi iddo ymddiddori yn yr iaith Gymraeg, ei llenyddiaeth a'i hanes cyn gadael Cymru.

Yn ogystal â bod yn "dad Gorsedd Y Beirdd" roedd hefyd yn un o sefydlwyr mudiad yr Undodiaid yng Nghymru.

Cofeb Iolo Morganwg
Ceir cofeb i gofio cyfraniad Iolo ym Mryn Y Briallu yn Llundain

Roedd yn radicalydd gwleidyddol a bu'n cefnogi'r Chwyldro Ffrengig.

Roedd hefyd yn heddychwr, yn hynafiaethydd, yn emynydd a bardd telynegol oedd yn cyfeirio at ei hun fel 'The Bard of Liberty'.

Ond roedd o hefyd yn freuddwydiwr ac yn ffugiwr.

Yn gaeth i'r cyffur laudanum mae'n debyg i hynny gael effaith ar ei feddwl.

Er i'r seremoni gyntaf gael ei chynnal yn 1792, mae'r beirdd, y llenorion a'r cerddorion yn dal i ymgasglu'n flynyddol.

Er nad oes sicrwydd pam iddo fynd ati i sefydlu'r Orsedd mae'n bosib meddal am resymau.

Cafodd ei swyno gan ramantiaeth Derwyddiaeth y 18fed Ganrif ac roedd yn credu fod beirdd Cymru wedi etifeddu rôl y derwyddon Celtaidd.

Mae lle i gredu hefyd ei fod yn genfigennus o hyder y Gwyneddigion mai yng Ngwynedd yr oedd barddoniaeth a thraddodiadau Cymru ar eu puraf.

Seremonïau

Roedd am sicrhau mai ym Morgannwg yn unig yr oedd traddodiadau wedi goroesi.

Fo oedd yn gyfrifol am ddyfeisio'r defodau a geir a hynny wedi eu selio ar weithgareddau'r Derwyddon Celtaidd.

Cafodd y seremoni gyntaf ei chynnal ar Fehefin 21 1792 ym Mryn y Briallu, Llundain.

Primrose Hill, Y Bont-Faen
Mae un o strydoedd ar y ffordd i mewn i'r Bont-Faen yn nodi'r cysylltiad â Bryn y Briallu

Gosodwyd cylch o gerrig mân ar y maes a thu fewn i'r cylch bu rhai o gyfeillion Iolo yn ei gynorthwyo gyda'r defodau.

Roedd yr Orsedd gyntaf yng Nghymru ar Fryn Owain ar gyrion Y Bont-faen ym Mro Morgannwg a hynny yn 1795.

Bu'n rhaid aros am dros 20 mlynedd cyn i Iolo gynnal seremoni'r Orsedd am y tro cyntaf mewn Eisteddfod.

Roedd honno yng Ngwesty'r Ivy Bush yng Nghaerfyrddin yn 1819.

Ers sefydlu'r Eisteddfod Genedlaethol yn 1860 mae Gorsedd y Beirdd wedi bod yn gysylltiedig â'r Eisteddfod.

Yn ddiweddarach mae Gorsedd y Beirdd wedi ei sefydlu yn Llydaw (1900) ac yng Nghernyw (1928).

Fe ail-sefydlwyd Gorsedd y Beirdd yn Y Wladfa, Patagonia yn 2001.

Ac mae enw Iolo Morgannwg yn parhau yn yr ardal drwy'r ysgol gynradd yn Y Bont-faen.