Cymry Llundain yn arwyddo Gavin Henson

  • 9 Gorffennaf 2012
Gavin Henson Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Henson yn ymuno â chyn-hyfforddwr y Gweilch am yr ail dro yn ei yrfa

Mae Clwb Rygbi Cymry Llundain wedi arwyddo Gavin Henson.

Ym Mehefin cafodd y clwb ddyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr ar ôl ennill eu hapêl yn erbyn Undeb Rygbi Lloegr.

Am yr ail dro yng ngyrfa'r chwaraewr bydd cyn-hyfforddwr y Gweilch, Lyn Jones, yn ei hyfforddi.

Roedd Henson yn aelod o'r tîm enillodd y Gynghrair Geltaidd o dan oruchwyliaeth Jones yn 2005 a 2007.

'Talent aruthrol'

Mae'r Cymro 30 oed wedi chwarae i'r Saraseniaid a Toulon ers iddo adael y Gweilch ac fe gafodd ei ddiswyddo gan y Gleision ym mis Ebrill.

"Rwy'n gobeithio ac yn credu y bydd yn gallu anghofio am y cyfnod hwnnw ac yn gallu symud ymlaen gyda Chymry Llundain," meddai Lyn Jones.

"Mae gan Gavin dalent aruthrol ond nid yw wedi gwireddu ei lawn botensial yn ystod y tair neu bedair blynedd ddiwethaf am sawl rheswm.

"Y peth pwysig i Gavin nawr yw ei fod yn canolbwyntio'n llwyr ar fod y chwaraewr gorau posib ac rwy'n ffyddiog y gallai fod yn hwb fawr i Gymry Llundain ..."

Dyw Henson, sydd wedi ennill y Gamp Lawn ddwywaith gyda Chymru, ddim wedi bod yn y tîm yn rheolaidd ers anafu ei ffêr ym mis Mawrth 2009.

Ymunodd a thîm y Saraseniaid ym mis Hydref 2010, gan chwarae pedair gêm yn unig cyn iddo wneud cais i ddod â'i gytundeb i ben fel bod modd ymuno â Toulon.

Sgoriodd gais ym muddugoliaeth y tîm yn erbyn Stade Francais ar ei ymddangosiad cyntaf cyn cael ei wahardd am gyfnod byr am dorri cod ymddygiad y clwb.

Ers symud yn ôl i Gymru chwaraeodd wyth gêm i'r Gleision gan fethu â sgorio cais.

Chwaraeodd i Gymru ddiwethaf yn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr o 19-9 yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Awst 2011.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.