Llyfrgell Genedlaethol yn prynu llawysgrif Cyfraith Hywel Dda

Mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi prynu un o'r llawysgrifau cyntaf i gael ei hysgrifennu yn yr iaith Gymraeg am £541,250.

Daeth cymhorthdal o £467,000 oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri.

Mae'r ddogfen, Llawysgrif Boston, yn cael ei hystyried yn "un o drysorau diwylliant y Cymry ac yn symbol o hunaniaeth cenedlaethol".

Ac mae'r gyfrol memrwn fechan yn enghraifft gynnar o destun allweddol yn hanes cyfraith Cymru ac fe fyddai wedi cael ei ddefnyddio gan farnwr crwydrol yn Ne Cymru yn y bedwaredd ganrif ar ddeg.

'Cyfle unigryw'

Dywedodd y Dr Manon Williams, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Dreftadaeth y Loteri: "Roedd yr ocsiwn yn gyfle unigryw i ddod ag un o wir drysorau Cymru adref ac rydw i'n falch iawn ein bod wedi gallu gweithredu'n gyflym a chynnig yr ariannu angenrheidiol i wireddu'r broses.

"Y Llyfrgell Genedlaethol yw cartref naturiol y llawysgrif brin hon a gall arbenigwyr ei hastudio a'i dehongli gan sicrhau ei bod yn cael ei deall yn well am y tro cyntaf.

"Yn ogystal â darparu cyfleon hyfforddi ar gyfer y staff, mae yna gynlluniau i brentisiaid gael rhan mewn datblygu ymchwil newydd ac ennill sgiliau arbenigol tra'n sicrhau'r darn pwysig hwn o hanes Cymru ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd Andrew Green, Llyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru: 'Mae'r llyfrgell yn falch iawn ei bod wedi sicrhau pryniant y llawysgrif hon ac mae'n ddiolchgar iawn i Gronfa Dreftadaeth y Loteri - a chefnogwyr eraill fel Llywodraeth Cymru a Chyfeillion y Llyfrgelloedd Cenedlaethol - am eu cefnogaeth hael.

'Colli'

"Heb gefnogaeth y gronfa mae hi bron yn sicr y byddai'r llawysgrif hon wedi cael ei cholli i'r cyhoedd yng Nghymru a'r tu hwnt am genhedlaeth arall.

"Bellach mae'r llawysgrif yn ychwanegu darn allweddol at y darlun sydd gennym o'r cyfnod ac o'r pwnc ac fe fydd yn cynnig cyfle nid yn unig i ysgolheigion ond i blant a phobl o bob oed i weld y trysor hwn ..."

Bydd y llawysgrif ar gael i'w gweld gan y cyhoedd am gyfnod penodol, Gorffennaf 23-Awst 10, cyn iddi gael ei rhoi yng ngofal gwarchodwyr y Llyfrgell i gael ei hailrwymo a'i digideiddio.

Dylai'r broses hon ddod i ben erbyn diwedd 2012.

Ymfudwyr

Y gred yw bod y ddogfen wedi ei chludo i America gan ymfudwyr o Gymru yn y ddeunawfed ganrif.

Y gwerthwyr oedd Cymdeithas Hanesyddol Massachusetts yn Boston.

Dywedodd Dr Sara Elin Roberts, arbenigwraig ar hen gyfraith yn enwedig Cyfraith Hywel o Adran y Gyfraith Prifysgol Bangor, bod y ddogfen yn unigryw.

"Dyma un o'r llawysgrifau gwreiddiol o'r gyfraith.

"Dydi hi ddim yn gopi a dim ond tua 50 sydd mewn bodolaeth ac er bod nifer yn weddol uchel o'r cyfnod mae pob un yn unigryw.

"Mae'r testun efo elfennau unigryw ac yn aml yn perthyn i'r testun ond does 'na ddim copi arall o'r un darn yma o'r un cyfnod.

"Does 'na ddim tystiolaeth bod Hywel Dda wedi eistedd lawr i lunio'r llyfryn gan ei fod yn dyddio tua 4 canrif wedi cyfnod Hywel.

"Mae'n bosib iddi gael ei hysgrifennu mewn mynachlog ac mae'n anghyffredin o ran bod llythrennau wedi eu lliwio sy'n anghyffredin mewn gwaith cyfreithiol."

Uno

Daeth Hywel Dda yn frenin Seisyllwg, ardaloedd yng Ngheredigion a Sir Gaerfyrddin erbyn hyn, yn y flwyddyn 900 cyn rheoli Gwynedd a Phowys.

Pan fu farw yn 949 roedd cyfran fawr o Gymru wedi ei huno o dan un brenin.

Roedd wedi diwygio arferion cyfreithiol gwahanol ranbarthau Cymru a'u troi'n un gyfraith.

Mae llawer o'r cyfreithiau yn cael eu hystyried yn oleuedig iawn am y cyfnod.

Er enghraifft, roedd priodas yn cael ei hystyried yn gytundeb, nid yn sacrament crefyddol a chaniatawyd ysgariad trwy gytundeb y ddwy ochr.