Dai Greene: Amser gorau ei yrfa

Dai Greene Image copyright Getty Images
Image caption Llwyddodd Greene i gofnodi amser o 47.84 eiliad nos Wener

Rhedodd Dai Greene amser gorau ei yrfa wrth iddo orffen yn ail yn y 400m dros y clwydi yn y Diamond League ym Mharis nos Wener.

Llwyddodd Javier Culson o Puerto Rica i gofnodi amser o 47.78 eiliad wrth i Greene gofnodi 47.84 eiliad.

Dyma'r ail dro i bencampwr y Byd golli i Culson yn y gynghrair eleni wedi iddo gofnodi amser o 48.98 eiliad pan ddaeth yn bedwerydd yn Oslo fis yn ôl.

Er hynny mae Greene, o Felinfoel ger Llanelli yn wreiddiol, wedi nesau at y record Brydeinig (47.82 eiliad) gafodd ei osod gan Kriss Akabusi yn ystod Gemau Olympaidd Barcelona ym 1992.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.