Angladd yr actor Brian Hibbard

Brian Hibbard
Image caption Roedd yn 65 oed pan fu farw fis diwethaf

Bydd angladd yr actor a'r canwr Brian Hibbard yn cael ei gynnal ddydd Gwener.

Bydd 'dathliad' er cof amdano am ganol ddydd yng nghanolfan Soar, Penygraig, Rhondda Cynon Taf cyn yr angladd yn Amlosgfa Llangrallo.

Roedd yn 65 oed pan fu farw fis diwethaf.

Fe sylfaenodd grŵp The Flying Pickets gyrhaeddodd frig y siartiau gyda'r gân "Only You" yn ystod Nadolig 1983.

Roedd hefyd yn actio mewn ffilmiau a chyfresi teledu, gan gynnwys Pobol y Cwm, Pam Fi Duw?, Coronation Street, Eastenders ac Emmerdale.

Cafodd wybod ei fod yn dioddef o ganser y prostad yn 2010 ac fe fu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gyda'i wraig, Caroline, wrth ei ochr.

Mae gan y cwpl, oedd yn byw yn Y Rhath, Caerdydd, dri o blant - Lilly, Hafwen, a Cai.

Profiadol

Enillodd Mr Hibbard wobr BAFTA Cymru am yr actor gorau yn 2006 am ei ran yn y ffilm Little White Lies.

Fe oedd "Karaoke King" Dai yn y ffilm Twin Town yn ogystal ag ymddangos yn y ffilmiau House of America a Rancid Aluminium.

Cafodd ei eni yng Nglyn Ebwy yn 1946 ac roedd hefyd yn actor llwyfan profiadol, gan weithio gyda chwmni theatr arloesol John McGrath 7:84 cyn ffurfio'r Flying Pickets yn 1982.

Cafodd y grŵp lwyddiant yng nghanol yr 1980au wrth gyrraedd rhif un yn y siartiau gydag "Only You" a rhif 7 gyda'r gân "When you're young and in love".

Sosialaidd

Roedd gan y Flying Pickets ddaliadau sosialaidd cryf ac roedd y grŵp yn picedu rhaglen Top of The Pops yn ystod Streic y Glowyr yn 1984.

Gadawodd y grŵp yn 1986 cyn cael gyrfa lwyddiannus fel actor teledu a ffilm.

Chwaraeodd ran y mecanic Doug Murray yn Coronation Street rhwng 1992 a 1993 a fe oedd y cymeriad Johnny Mac yn Pobol y Cwm.

Y llynedd roedd yn EastEnders, un o'i rannau olaf, y cymeriad Henry Mason, cyn weithiwr cymdeithasol.

Straeon perthnasol