Trefn gemau Uwchgynghrair Cymru

  • 3 Gorffennaf 2012
Chwarewyr TNS yn dathlu ennill Uwchgynghrair Cymru Image copyright Other
Image caption Y Seintiau Newydd yn dathlu wrth fod yn bencampwyr

Mae Uwchgynghrair Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi'r rhestr gemau hanner cynta'r tymor nesa'.

Yn ôl y drefn dros y ddau dymor diwethaf, bydd y 12 tîm yn chwarae yn erbyn ei gilydd ddwywaith cyn i'r gynghrair gael ei rhannu'n ddwy ar ddiwedd mis Ionawr 2013.

Bydd y pencampwyr - Y Seintiau Newydd - yn dechrau ar eu tomen eu hunain yng Nghroesoswallt gydag ymweliad Airbus UK Brychdyn tra bod Bangor yn Stadiwm Nantporth wrth groesawu'r newydd-ddyfodiaid, GAP Cei Cona.

Gyda Chastell-nedd wedi gadael yr Uwchgynghrair oherwydd trafferthion ariannol a Llanelli wedi profi problemau ariannol wrth i nifer o chwaraewyr adael, mae ambell un yn darogan mai Port Talbot a'r Bala fydd yn herio'r ddau geffyl blaen.

Fe fydd y ddau fawr yn cwrdd ar Fedi 22 wrth i Fangor deithio i gartre'r Seintiau gyda'r pencampwyr yn mynd i Nantporth ar Ragfyr 1.

Mae trefn y gemau ar ffurf grid isod.

Trefn gemau Uwchgynghrair Cymru - Tymor 2012/13
ABR AFA AIR BAL BAN CAR CCN LLA DRE PTT PRT YSN
Aberystwyth Hyd.5 Rhag.15 Awst 24 Medi 4 Hyd.27 Tach.24 Medi 21 Rhag.26 Medi 8 Ion.5 Hyd.19
Lido Afan Rhag.21 Hyd.13 Medi 8 Tach.24 Medi 4 Rhag.1 Ion.19 Medi 29 Rhag.26 Hyd.27 Awst 25
Airbus Medi 28 Ion.5 Awst 31 Medi 9 Awst 25 Rhag.26 Hyd.7 Tach.30 Tach.24 Hyd.19 Hyd.26
Bala Tach.3 Tach.18 Medi 4 Rhag.22 Medi 22 Ion.19 Rhag.15 Awst 18 Hyd.14 Medi 15 Ion.1
Bangor Awst 31 Medi 15 Tach.16 Hyd.5 Rhag 15 Awst 17 Hyd.13 Tach.2 Ion.19 Ion.1 Rhag.1
Caerfyrddin Awst 18 Awst 31 Tach.3 Rhag.1 Medi 29 Hyd.13 Rhag.26 Ion.19 Rhag.21 Tach.17 Medi 15
Cei Cona Medi 15 Medi 22 Ion.1 Hyd.19 Hyd.26 Ion.5 Medi 1 Tach.17 Awst 25 Rhag.14 Hyd.6
Llanelli Tach.30 Hyd.19 Rhag.23 Medi 29 Ion.5 Ion.29 Tach.11 Medi 15 Hyd.26 Awst 25 Tach.17
Drenewydd Ion.1 Rhag.15 Medi 22 Hyd.27 Awst 25 Hyd.20 Medi 8 Tach.24 Medi 4 Hyd.6 Ion.6
Port Talbot Tach.17 Ion.1 Medi 15 Ion.5 Hyd.20 Hyd.5 Tach.3 Awst 18 Awst 31 Medi 22 Rhag.15
Prestatyn Hyd.13 Awst 18 Ion.19 Tach.24 Rhag.26 Medi 8 Medi 28 Tach.3 Rhag.22 Rhag.1 Medi 11
Seintiau Ion.19 Tach.3 Awst 18 Rhag.26 Medi 22 Tach.24 Rhag.22 Medi 8 Hyd.13 Medi 29 Medi 1