Albwm o'r 1860au o'r Bala a Llanuwchllyn wedi ei werthu

Mae nifer o'r lluniau yn dangos y trigolion yn eu dillad gorau Image copyright Mullock's
Image caption Rhai o'r lluniau: Pobl leol yn eu dillad gorau

Mae hen luniau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi eu gwerthu mewn arwerthiant yn Llwydlo, Sir Amwythig.

Dywedodd arwerthwyr fod y lluniau o'r Bala a Llanuwchllyn yn dyddio'n ôl i'r 1860au, ryw 20 mlynedd ers cychwyn ffotograffiaeth.

Cafodd y lluniau eu prynu gan Dîm Archifau Meirionnydd am £620.

Fe fydd y casgliad yn cael eu digido er mwyn i'r cyhoedd eu gweld.

Mae'r lluniau o bobl leol fel y barbwr a'r heddwas, rhai yn eu dillad gorau, yn ogystal â golygfeydd o'r ardal.

Cafodd y lluniau eu gwerthu yn yr ocsiwn yn Mullock's.

Cenedlaethau

"Cafodd yr albwm ei ganfod yn atig dynes yn Sir Amwythig," meddai Richard Westwood-Brookes o'r cwmni.

"Roedd ei gŵr yn dod o Gymru ac rydym yn credu bod yr albwm wedi cael ei drosglwyddo o un genhedlaeth i'r llall.

"Mae'n debyg mai dyma'r ffotograffau cynta o'r ardal ..."

Gan fod proses tynnu lluniau mor ddrud, roedd yn arferiad tynnu lluniau oedd yr un maint â phlatiau'r camera.

Roedd y lluniau yn cael eu hargraffu ar bapur tenau cyn eu rhoi ar gardfwrdd.

Cafodd y lluniau o ardal Y Bala eu tynnu gan Edward Williams.

Mae rhai yn nodi'r Bala ac eraill yn nodi lleoliad ei stiwdio yn Llanrwst.

Cyflwr arbennig

Dywedodd Mr Westwood-Brookes eu bod yn aml yn cael eu gwerthu mewn arwerthiannau ond nid bob tro mewn cyflwr cystal.

Image copyright Mullocks
Image caption Cafodd y lluniau eu canfod mewn albwm mewn tŷ yn Yr Amwythig

"Mae hwn mewn cyflwr arbennig iawn ac mae'n anarferol cael cyfres o luniau o bobl yn byw mewn ardal fechan," meddai.

Fe gafodd eu lluniau eu prynu ar y cyd rhwng Cyngor Gwynedd a grant gan Amgueddfa'r V&A yn Llundain drwy Archifdy Meirionnydd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.