Cheryl Gillan yn clodfori cyfraniad y diwydiant creadigol

Cheryl Gillan
Image caption Ysgrifennydd Cymru'n ymweld â nifer o safleoedd darlledu yn y de-ddwyrain

Mae Ysgrifennydd Cymru yn talu teyrnged i'r diwydiannau creadigol yng Nghymru wrth ymweld â safleoedd pwysig yng Nghasnewydd a Chaerdydd.

Cheryl Gillan sy'n teithio i'r Ysgol Ffilm, Ffotograffiaeth a'r Cyfryngau Digidol ym Mhrifysgol Casnewydd ddydd Iau cyn symud ymlaen i Gaerdydd gan ymweld â phencadlys ITV Wales a Boomerang Plus.

Fe ddaw ei diwrnod i ben wrth gwrdd â staff S4C a BBC Cymru ym Mhorth Teigr - stiwdios newydd BBC Cymru ym Mhorth y Rhath.

"Ni allwn danbrisio cyfraniad y diwydiannau creadigol i economi Cymru a'i ddelwedd Cymru yn rhyngwladol," meddai.

"Mae hyder ac uchelgais y talentau sydd yma'n barod a'r talentau newydd sy'n datblygu yn cynorthwyo i hybu'r diwydiant yma a thramor, gan danlinellu statws Cymru fel magnet a chatalydd i dalent greadigol.

"Mae'r sector cynhyrchu annibynnol yn chwarae rôl bwysig yn safon ac amrywiaeth cynnwys teledu'r DU, ac wedi cymryd camau breision wrth dyfu ym marchnad allforion y DU."

Straeon perthnasol

Hefyd ar y BBC

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.