Cymru i ddechrau eu hymgyrch yng Nghaerdydd

  • 27 Mehefin 2012
Cardiff City Stadium Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Bydd Cymru yn chwarae Gwlad Belg yn Stadiwm Dinas Caerdydd ar Fedi 7

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi mai Stadiwm Dinas Caerdydd fydd lleoliad y ddwy gêm agoriadol yn eu hymgyrch i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2014.

Byddan nhw'n chwarae Gwlad Belg yno ar Fedi 7 a'r Alban ar Hydref 12.

Maen nhw hefyd wedi trefnu gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria yn Stadiwm Liberty ar Chwefror 6.

Bydd Cymru'n dychwelyd i Stadiwm Liberty ar Fawrth 26 pan fyddan nhw'n herio Croatia mewn gêm ragbrofol Cwpan y Byd.

Bydd y tymor ryngwladol yn dechrau gyda'r gêm gyfeillgar yn erbyn Bosnia-Hercegovina ym Mharc y Scarlets ar Awst 15.

Gemau Cymru yn ymgyrch Cwpan y Byd

2012

Medi 7: Gwlad Belg (adref) - Stadiwm Dinas Caerdydd

Medi 11: Serbia (oddi cartref)

Hydref 12: Yr Alban (adref) Stadiwm Dinas Caerdydd

Hydref 16: Croatia (oddi cartref)

2013

Mawrth 22: Yr Alban (oddi cartref)

Mawrth 26: Croatia (adref) Stadiwm Liberty

Medi 6: Macedonia (oddi cartref)

Medi 10: Serbia (adref)

Hydref 11: Macedonia (adref)

Hydref 15: Gwlad Belg (oddi cartref)