Recordio DNA holl blanhigion Cymru

Clychlys ymledol Image copyright tigerente
Image caption Mae DNA'r clychlys ymledol, campanula patula, ymhlith y rhai sydd wedi eu cofnodi

Mae DNA holl blanhigion blodeuol brodorol Cymru wedi cael ei gofnodi fel rhan o gynllun o'r enw Barcode Wales.

Gall y wybodaeth gynorthwyo cadwraeth a datblygu cyffuriau newydd i drin afiechydon.

Yn ôl Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru dyma'r tro cyntaf i unrhyw wlad greu cronfa ddata o'r fath.

Mae gan Gymru tua 75% o blanhigion blodeuol y DU ac mae 1,143 o blanhigion a chonifferau ar y gronfa ddata.

Gall ddefnyddio gronynnau paill, darnau o hadau, gwreiddiau neu bren i adnabod planhigion.

Bydd planhigion eraill sydd wedi cael eu cyflwyno gan bobl yn ffurfio cam nesaf y cynllun tair blynedd.

Arweinydd y prosiect yw Dr Natasha de Vere, pennaeth cadwraeth ac ymchwil Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yn Llanarthne, Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Dr de Vere: "Mae Cymru nawr yn y sefyllfa unigryw o allu adnabod rhywogaethau planhigion o ddeunyddiau a fyddai wedi bod, yn y gorffennol, yn anodd iawn os nad yn amhosib.

"Trwy brosiect 'Barcode Wales' rydym wedi creu cyfleoedd ar gyfer ymchwil eang i bynciau o gadwraeth bioamrywiaeth i iechyd dynol."

Mae'r gronfa ddata ar gael i'w ddefnyddio gan ymchwilwyr o dros y byd i gyd.

Mae partneriaid y cynllun yn cynnwys Amgueddfa Cymru, prifysgolion Aberystwyth a Morgannwg, Cymdeithas Fotanegol Ynysodd Prydain a chwmni 'High Performance Computing (HPC) Wales'.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.