Cyhoeddi Eisteddfod 2013 yn Sir Ddinbych a'r Cyffiniau

Maes yr Eisteddfod, Dinbych, 2001
Maes yr Eisteddfod yn Ninbych 2001 yw'r un lleoliad ar gyfer Prifwyl 2013

Cafodd Seremoni Gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych a'r Cyffiniau 2013 ei chynnal ddydd Sadwrn.

Oherwydd y tywydd bu'n rhaid cynnal y seremoni gyda Gorsedd y Beirdd o dan arweiniad yr Archdderwydd Jim Parc Nest yng Nghanolfan Hamdden Dinbych.

Yn ystod y seremoni fe gyhoeddodd Jim Parc Nest taw un enwebiad oedd i fod yr Archdderwydd nesaf, Christine James, oedd wedi ei dderbyn ar gyfer swydd Archdderwydd yn ystod y cyfnod 2013-16.

"Er bod rhaid i gyfarfod blynyddol yr Orsedd gadarnhau'r enwebiad hwn yn y cyfarfod yn ystod yr Eisteddfod eleni, rwyf am gyhoeddi, a hynny'n hapus iawn, mai enw Christine James o Gaerdydd, fydd yn mynd gerbron y cyfarfod blynyddol ym Mro Morgannwg.

"Hi yw'r ferch gyntaf i gael ei henwebu fel Archdderwydd ac mae'n braf iawn cael cyhoeddi hynny," meddai.

Yn ei araith gosododd Yr Archdderwydd her i awdurdod addysg y sir.

"Y nod anrhydeddus y dylai Awdurdod Addysg Sir Ddinbych anelu ato yw bod pob plentyn o dan ei ofal yn cael y cyfle i dderbyn addysg cyfrwng Cymraeg."

O 10.30am ymlaen roedd digwyddiadau ar y llwyfan perfformio ar Sgwâr y Goron ger Neuadd y Dref, ond bu'n rhaid gohirio'r Orymdaith drwy'r dref oherwydd y tywydd.

Roedd y sgwâr yn llawn o rieni a thrigolion lleol yn dangos eu cefnogaeth i blant a phobl ifanc o bob oed ac roedd stondinau yn Neuadd y Farchnad hefyd yn brysur yn ystod y bore.

Roedd nifer o siopau'r dref wedi bod yn paratoi ar gyfer y dydd yn brysur, gyda llawer yn cymryd rhan mewn cystadleuaeth addurno ffenestri i ddangos cefnogaeth busnesau a chwmnïau lleol, a'r croeso sydd eisoes yn bodoli i ymweliad yr Eisteddfod.

"Mae Gŵyl y Cyhoeddi yn garreg filltir arbennig wrth i ni baratoi i weld y Brifwyl yn dychwelyd i'r sir," meddai Hugh Evans, arweinydd y cyngor sir.

'Ffenest siop'

Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Sir Ddinbych a'r Cyffiniau

"Anodd credu bod yr amser wedi hedfan heibio ers i swyddogion yr Eisteddfod a'r Cyngor gychwyn trafodaethau am y posibilrwydd o'r ŵyl yn dychwelyd i'r fro.

"Mae llawer o waith eisoes wedi mynd rhagddo yn y sir ac rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda'r Eisteddfod, gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol ledled y sir i gynnig croeso cynnes yn Sir Ddinbych.

"Mae'r ŵyl yn ffenest siop arbennig i ni ddangos i weddill Cymru beth sydd gan y sir i'w gynnig."

Cyn y Seremoni Gyhoeddi dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, eu bod yn falch bod cynifer o bobl a chymdeithasau wedi ymateb i'r gwahoddiad i fod yn rhan o'r orymdaith a'r ŵyl.

'Diwrnod arbennig'

"Gobeithio y bydd yn ddiwrnod arbennig i'r teulu oll, ac y gallwn roi rhagflas i bobl Dinbych a gweddill Sir Ddinbych a'r ardaloedd cyfagos o'r hyn sydd i ddod yn ystod mis Awst y flwyddyn nesaf."

Ar ddiwedd y dydd dywedodd Hywel Wyn Edwards, Trefnydd yr Eisteddfod, eu bod wedi cael digwyddiad arbennig o lwyddiannus yn nhref Dinbych, gyda chroeso brwd a chydweithio hapus.

"Braf oedd gweld cynifer o bobl leol wedi dod atom i ddangos eu cefnogaeth i'r Eisteddfod pan y daw i'r ardal y flwyddyn nesaf.

"Hoffwn ddiolch i bawb am eu cefnogaeth, i'r pwyllgorau lleol am eu holl waith a'u hymroddiad, a chyda'r rhestr testunau wedi'i chyhoeddi, ddymuno'n dda i bawb sy'n meddwl am gystadlu, gan obeithio y bydd y testunau'n apelio at nifer fawr o feirdd, llenorion a chantorion.

"Chawsom ni mo'r tywydd roeddan ni wedi gobeithio'i gael, ond hoffwn ddiolch i bawb a weithiodd mor galed er mwyn sicrhau bod y seremoni wedi digwydd ar yr adeg iawn yn Ninbych ddydd Sadwrn."

Fe fydd yr Eisteddfod yn cael ei chynnal ar dir Fferm Kilford ar gyrion Dinbych rhwng Awst 3 a 10, 2013.

Hwn oedd lleoliad yr Eisteddfod yn 2001, blwyddyn anodd i'r diwydiant amaeth oherwydd clwy'r traed a genau.

Yr hyn sy'n nodweddiadol am gysylltiad yr Eisteddfod â'r ardal yw mai yno'r crëwyd hanes wrth i ferched ennill y prif wobrau llenyddol am y tro cyntaf.

Dilys Cadwaladr enillodd y Goron yn Y Rhyl yn 1953 a Mererid Hopwood enillodd y Gadair yn 2001.

Cymanfa

Nos Sul roedd y dathliadau'n parhau gyda Chymanfa'r Cyhoeddi yng Nghapel y Tabernacl, Rhuthun, am 8pm.

Beryl Lloyd Roberts oedd yn arwain, Tim Stuart yn canu'r organ a Chôr yr Eisteddfod yn perfformio.

Roedd rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol yn recordio'r Gymanfa.