Cyfarfodydd llawn y Cynulliad mewn dwy iaith ond nid y pwyllgorau

Adeilad y Senedd
Roedd Y Cofnod ar gael yn y Gymraeg ers cychwyn y Cynulliad hyd at 2010.

Mae un o bwyllgorau'r Cynulliad wedi pleidleisio o blaid gwelliannau i Fesur Ieithoedd Swyddogol.

Mae penderfyniad y Pwyllgor Cydraddoldeb yn golygu y bydd trafodaethau'r Cynulliad yn y cyfarfodydd llawn yn cael eu cofnodi yn y ddwy iaith.

Ond does dim bwriad ar hyn o bryd i gyfieithu holl drafodaethau pwyllgorau i'r Gymraeg.

Cafodd rhai gwelliannau eu tynnu'n ôl heb bleidlais.

Comisiynydd y Cynulliad sydd â chyfrifoldeb am yr iaith Gymraeg yw Rhodri Glyn Thomas.

'Nawddoglyd'

"Mae'n bwysig ein bod yn sylweddoli nad yw trin ieithoedd yn gyfartal yn golygu gwneud yr union yr un fath yn y ddwy iaith," meddai.

"Yn sicr, dwi ddim yn gweld bod cyfieithu i iaith yn gosod unrhyw statws ar iaith ... fe all fod yn weithred nawddoglyd a thocenistaidd."

Roedd Y Cofnod ar gael yn y Gymraeg ers cychwyn y Cynulliad hyd at 2010.

Ond wedyn dim ond areithiau Cymraeg fu'n cael eu cyfieithu a'u cyhoeddi yn Saesneg - doedd yr areithiau Saesneg ddim yn cael eu trosi i'r Gymraeg.

Roedd Bwrdd yr Iaith wedi casglu bod Comisiwn y Cynulliad wedi torri ei gynllun iaith - ac anogodd y Cynulliad i ddarparu trafodion y cyfarfod llawn yn gwbl ddwyieithog ac ymchwilio i sicrhau bod trefniadau cyfieithu'r Cofnod mor effeithlon â phosibl.

£600,000

Mae'r mater wedi rhannu aelodau a phleidiau.

Asgwrn y gynnen yw cost cyfieithu pob gair trafodaethau'r pwyllgorau a sesiynau llawn y Cynulliad.

Gall y gost gyrraedd hyd at £600,000 y flwyddyn, yn ôl Comisiwn y Cynulliad.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu'r sicrwydd y bydd y Cofnod o'r sesiynau llawn ar gael yn ddwyieithog.

'Ymgyrch'

"Rydym wedi ein siomi nad oedd cefnogaeth i welliannau a fyddai'n sicrhau bod yr holl drafodion ar gael yn Gymraeg ac y byddai fersiynau Cymraeg a Saesneg yn cael eu cyhoeddi yr un pryd," meddai Ceri Phillips, llefarydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

"Fe fyddwn ni'n parhau gyda'n hymgyrch i wella'r bil dros y cyfnod craffu nesaf.

"Mae dogfennau ein deddfwrfa yn hollbwysig nid yn unig o safbwynt hawliau moesol pobl i ddefnyddio'r Gymraeg - ac yn hollbwysig, statws y Gymraeg fel iaith swyddogol - ond hefyd i gorpws iaith y Gymraeg."