Yr actor a'r canwr Brian Hibbard wedi marw

Brian Hibbard
Roedd Brian Hibbard yn un o sylfaenwyr y grŵp

Mae'r actor a'r canwr Brian Hibbard wedi marw yn 65 oed.

Fe sylfaenodd grŵp The Flying Pickets gyrhaeddodd frig y siartiau gyda'r gân "Only You" yn ystod Nadolig 1983.

Roedd hefyd yn actio mewn ffilmiau a chyfresi teledu, gan gynnwys Pobol y Cwm, Pam Fi Duw?, Coronation Street, Eastenders ac Emmerdale.

Cafodd wybod ei fod yn dioddef o ganser y prostad yn 2010 ac fe fu farw yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd, gyda'i wraig, Caroline, wrth ei ochr.

Mae gan y cwpl, oedd yn byw yn Y Rhath, Caerdydd, dri o blant - Lilly, Hafwen, a Cai.

Profiadol

Enillodd Mr Hibbard wobr BAFTA Cymru am yr actor gorau yn 2006 am ei ran yn y ffilm Little White Lies.

Fe oedd "Karaoke King" Dai yn y ffilm Twin Town yn ogystal ag ymddangos yn y ffilmiau House of America a Rancid Aluminium.

Cafodd ei eni yng Nglyn Ebwy yn 1946 ac roedd hefyd yn actor llwyfan profiadol, gan weithio gyda chwmni theatr arloesol John McGrath 7:84 cyn ffurfio'r Flying Pickets yn 1982.

Cafodd y grŵp lwyddiant yng nghanol yr 1980au wrth gyrraedd rhif un yn y siartiau gydag "Only You" a rhif 7 gyda'r gân "When you're young and in love".

Sosialaidd

Roedd gan y Flying Pickets ddaliadau Sosialaidd cryf ac roedd y grŵp yn picedu rhaglen Top of The Pops yn ystod Streic y Glowyr yn 1984.

Gadawodd y grŵp yn 1986 cyn cael gyrfa lwyddiannus fel actor teledu a ffilm.

Chwaraeodd ran y mecanic Doug Murray yn Coronation Street rhwng 1992 a 1993 a fe oedd y cymeriad Johnny Mac yn Pobol y Cwm.

Y llynedd roedd yn EastEnders, un o'i rannau olaf, y cymeriad Henry Mason, cyn weithiwr cymdeithasol.

'Gonest'

Dywedodd ei ffrind, yr actor ac awdur, Boyd Clack: "Roedd Brian yn ddyn da, gweddus a gonest a'i deulu oedd y peth pwysica yn ei fywyd.

"Dros y blynyddoedd roedd ei waith i elusennau'n anhygoel.

"Roedd e'n ganwr ac yn actor gwych ac yn Sosialydd da.

"Fe gefnogodd Streic y Glowyr a chefnogi pob achos."