120 o swyddi stordy dan fygythiad yng Nghapel Hendre

Marks and Spencer Image copyright Getty Images
Image caption Mae'r cwmni'n cyflenwi dillad ar gyfer Marks a Spencer

Fe allai 124 o swyddi fod dan fygythiad mewn stordy yn Sir Gaerfyrddin.

Bydd dyfodol safle Dewhirst yng Nghapel Hendre ger Rhydaman yn destun ymgynghori ffurfiol sy'n dechrau ar Fehefin 26.

Dywedodd yr undeb eu bod yn gwobeithio trefnu cyfarfod â'r gweithwyr ddydd Llun.

Mae'r cwmni'n cyflenwi dillad ar gyfer Marks a Spencer.

Pedair canolfan

Dywedodd llefarydd ar ran Dewhirst: "Ry'n ni wedi gwneud cyhoeddiad i'n gweithwyr bod diswyddiadau'n bosib gan fod M&S yn ystyried newid y ffordd y maen nhw'n cyflenwi nwyddau."

Bwriad M&S yw defnyddio pedair canolfan ddosbarthu yn lle rhwydwaith o stordai llai.

Dywedodd Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Plaid Cymru yn etholaeth Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr: "Rwy'n pryderu am y newyddion hyn.

'Posibilrwydd'

"Mae fy swyddfa wedi siarad â rheolwr gyfarwyddwr ym mhencadlys Dewhirst ac rwy' wedi cael sicrwydd mai dim ond posibilrwydd yw'r diswyddiadau ar hyn o bryd ac nad oes unrhyw beth wedi ei gadarnhau".

Caeodd yr olaf o ffatrïoedd cynhyrchu dillad Dewhirst yng Nghymru, yn Abergawun, yn 2002 gyda 160 yn colli eu gwaith.

Cyn hynny caewyd ffatrïoedd yn Llambed, Abertawe ac Aberteifi.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.