Gyrrwr tacsi yn gwadu cyhuddiadau

  • 12 Mehefin 2012
Yr heddlu
Yr heddlu yn ymchwilio i'r drosedd

Mae gyrrwr tacsi wedi ei ryddhau ar fechniaeth ar ôl bod yn y llys a gwadu ei fod wedi defnyddio ei dacsi i daro wyth o gerddwyr yn fwriadol.

Cafodd chwech o weithwyr rheilffordd a dau berson arall eu hanafu wedi'r drosedd ger Stadiwm y Milenwim yng Nghaerdydd ym mis Mawrth.

Mae Majid Rehman, 28 oed o Grangetown, Caerdydd, wedi gwadu cyhuddiadau, gan gynnwys anafu bwriadol, anafu corfforol difrifol bwriadol, ceisio anafu corfforol difrifol ac achosi anafiadau corfforol.

Bydd yn Llys y Goron Caerdydd ar Dachwedd 5.