Llys: 'Tystiolaeth rymus' fod mam wedi lladd ei mab

  • 11 Mehefin 2012
Yaseen Ali Ege Image copyright Other
Image caption Cafodd corff Yaseen, saith oed, ei ddarganfod wedi tân yn ei gartref

Mae llys wedi clywed bod 'na "dystiolaeth rymus" fod mam wedi lladd ei mab saith oed.

Yn ei araith gloi dywedodd yr erlynydd, Ian Murphy QC, fod Sara Ege, 33 oed o Dreganna, Caerdydd, wedi cyffesu sawl tro ei bod wedi ymddwyn yn dreisgar.

Yn Llys y Goron Caerdydd mae hi wedi gwadu cyhuddiad o lofruddiaeth ac o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Ac mae hi wedi honni mai ei gŵr, Yousuf Ali Ege, 38 oed, laddodd eu mab Yaseen.

Mae'r tad wedi gwadu cyhuddiad o ganiatáu i blentyn farw drwy fethu â'i amddiffyn.

Cyffesu

Dywedodd Mr Murphy fod y fam wedi cyffesu wrth yr heddlu ar sawl diwrnod, sef Gorffennaf 26 a 28 ac Awst 3 a 10, 2010.

Roedd ffrwydrad, meddai, o emosiynau oherwydd ei dicter a cholli rheolaeth.

"Ni fyddai actores enillodd Oscar yn gallu perfformio fel hyn am ddiwrnodau."

Dywedodd mai ei hysfa hi oedd bod y mab yn dysgu'r Coran ar ei gof.

Oherwydd nad oedd yn ennill tir fe ddaeth hi'n fwy rhwystredig.

Cafodd corff Yaseen ei ddarganfod wedi tân yn ei gartre yng Ngorffennaf 2010.

Clywodd y llys fod y mab wedi marw oherwydd anafiadau yr un diwrnod.

Mae'r achos yn parhau.

Straeon perthnasol