Shane Williams i chwarae yn Siapan?

Mae disgwyl y bydd cyn-asgellwr tîm rygbi Cymru Shane Williams yn gwneud tro pedol o ran ymddeol o'r gêm gan ymuno â thîm o Siapan y tymor nesaf.

Disgwylir i gyn chwaraewr y Gweilch arwyddo cytundeb blwyddyn â thîm Mitsubishi Dynamos yn Ail Adran Cynghrair Siapan.

Sgoriodd Williams, 35 oed, ddwy gais yn ei gêm olaf i'r Gweilch yn rownd derfynol y Gynghrair Pro 12 i guro Leinster ym mis Mai.

Chwaraeodd Williams am y tro olaf yn y Deyrnas Unedig pan gollodd y Barbariaid i Gymru'r wythnos diwethaf.

Sgoriodd Williams 58 cais mewn 87 gêm i Gymru a 57 cais mewn 141 gêm i'r Gweilch cyn cyhoeddi y byddai'n ymddeol ar ddiwedd y tymor ym mis Chwefror eleni.

Straeon perthnasol