Jaidee yn bencampwr Agored Golff Cymru

  • 2 Mehefin 2012
Thongchai Jaidee
Enillodd Thongchai Jaidee o un ergyd

Thongchai Jaidee o Wlad Thai gipiodd bencampwriaeth Agored Cymru yn y Celtic Manor Ddydd Sul.

Er iddo sgorio un ergyd yn waeth na'r safon yn ei rownd olaf roedd hyn yn ddigon iddo ennill y bencampwriaeth o un ergyd.

Roedd y Sbaenwr Gonzalo Fernandez-Castano, Richard Sterne o De Affrica,Thomas Bjorn o Ddenmarc a Joost Luiten o'r Iseldiroedd yn gydradd ail.

Methodd yr wyth Cymro oedd yn cystadlu â chyrraedd trydedd rownd y gystadleuaeth ar ôl diwrnod trychinebus iddynt ddydd Gwener.

Pencampwriaeth Agored Cymru: Celtic Manor, Casnewydd:

1.Thongchai Jaidee (Gwlad Thai) -6 (71,68,67,72)

=2. Joost Luiten (Iseldiroedd) -5 (74,69,64,62)

=2. Fernandez-Castano (Sbaen) -5 (69,74,69,67)

=2. Thomas Bjorn (Denmarc) - 5 (71,72,68,68)

=2. Richard Sterne (De Affrica) -5 (73,68,69,69)