Morgannwg: Cant i Marcus North

  • 30 Mai 2012
Logo Morgannwg

Cafodd Morgannwg eu diwrnod mwyaf llwyddiannus y tymor hwn ar ail ddiwrnod eu gêm yn erbyn Sir Gaerlŷr yn Stadiwm Swalec yn ail adran Pencampwriaeth y Siroedd ddydd Mercher.

Erbyn diwedd y dydd roedd y tîm cartref wedi sgorio 31 o rediadau yn fwy o rediadau na chyfanswm batiad cyntaf Sir Gaerlŷr gan golli dim ond pum wiced.

Roedd Sir Gaerlŷr wedi sgorio 199 am 6 wiced dros nos a llwyddodd bowlwyr Morgannwg gipio'r pedair wiced olaf wrth i'r ymwelwyr ychwanegu 72 rhediad arall.

Bowlwyr mwyaf llwyddiannus Morgannwg oedd Jim Allenby a gipiodd bedair wiced am 39 rhediad oddi ar 22 pelawd a'r troellwr llaw chwyth Dean Cosker a gipiodd dair wiced am 59 rhediad oddi ar 30.5 pelawd.

Ychwanegodd agorwyr Morgannwg 75 rhediad am y wiced gyntaf cyn i Joshua Cobb ddal William Bragg oddi ar fowlio Wayne White am 22 rhediad.

Bowliodd White Huw Walters am ddim ond pedwar rhediad cyn i'r agorwr Gareth Rees ychwanegu 103 o rediadau gyda'r batiwr prawf o Awstralia, Marcus North, cyn i Rees gael ei ddal gan Mommsen oddi ar fowlio Robbie Joseph am 66 rhediad.

Batiodd Ben Wright yn gadarn gan ychwanegu 91 rhediad gyda North cyn iddo gael ei ddal gan Ned Eckersley oddi ar fowlio Nathan Buck am 44 rhediad.

Eckersley oedd hefyd yn gyfrifol am ddal North oddi ar fowlio Claue Henderson am 116 rhediad oddi ar 148 pêl gan daro'r ffin 11 gwaith.

Bydd Morgannwg yn gobeithio ymestyn eu mantais yn ystod y trydydd dydd gan sgorio cyfanswm sylweddol i roi pwysau ar fatwyr yr ymwelwyr yn eu hail-fatiad.

Mae Morgannwg ar waelod ail adran y bencampwriaeth gyda dim ond 27 pwynt ac mae Sir Gaerlŷr yn y safle olaf ond un gyda 45 pwynt.

Pencampwriaeth y Siroedd: Adran 2

Morgannwg v Sir Gaerlŷr - Diwrnod cyntaf

Sir Gaerlŷr = (batiad cyntaf) 271

Morgannwg = (batiad cyntaf) 302-5