Anrhydeddu sêr pêl-droed a rygbi ym Mro Morgannwg

  • 31 Mai 2012
Iwan Roberts a John Hartson yw'r pêl-droedwyr ar y rhestr
Iwan Roberts a John Hartson yw'r pêl-droedwyr ar y rhestr

Mae nifer o fyd chwaraeon a'r celfyddydau yn cael eu hanrhydeddu a'u derbyn i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg 2012.

Yn eu plith mae'r cyn-chwaraewyr pêl-droed Iwan Roberts a John Hartson a'r chwaraewyr rygbi Shane Williams a Stephen Jones.

Bydd y cantorion Wynne Evans a Linda Griffiths yn cael eu derbyn yn ogystal â Phrif Weinidog Cymru, Carwyn Jones.

Ar y rhestr hefyd mae'r actores Lisabeth Miles, y cyflwynydd radio Huw Stephens, y cynhyrchydd Gwenda Griffith ac Arwel Ellis Owen, cyn-Brif Weithredwr S4C.

Yn ogystal ag enwogion mae 'na nifer sydd wedi cyfrannu at eu cymunedau, yr iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Yn eu plith mae Gwerfyl Thomas o Fro Ogwr, Gwynne Williams o Ddyffryn Nantlle a Magwen Pugh o Gemaes, Machynlleth.

Trefn newydd

Hefyd Gareth Parry Jones o Gaernarfon, Densil Morgan o Lanbedr Pont Steffan a Sharon Rees o'r Rhondda.

Eleni bydd trefniadau newydd Urddau er Anrhydedd Gorsedd y Beirdd yn dod i rym.

Fe fydd pob aelod newydd yn aelod ar yr un lefel, hynny yw fel Derwydd.

O hyn ymlaen, enillwyr prif wobrau llwyfan yr Eisteddfod Genedlaethol yn unig fydd yn cael eu hurddo i'r Wisg Wen.

Bydd pob un sy'n derbyn aelodaeth trwy anrhydedd Yr Orsedd yn cael eu derbyn un ai i'r Wisg Werdd neu'r Wisg Las.

Yn amlwg

Caiff Stephen Jones a Shane Williams eu hanrhydeddu hefyd
Mae Stephen Jones a Shane Williams yn cael eu derbyn i'r Orsedd

Bydd y rhai sy'n amlwg ym myd y Gyfraith, Gwyddoniaeth, Chwaraeon, Newyddiaduraeth, y Cyfryngau, gweithgaredd bro/neu genedl yn derbyn Urdd Derwydd - Y Wisg Las am eu gwasanaeth.

Mae'r Orsedd yn urddo aelodau newydd i'r Wisg Werdd oherwydd eu cyfraniad i'r Celfyddydau.

Bydd y rheini sydd wedi sefyll arholiad neu sydd â gradd gymwys ym maes Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama neu Gelf hefyd yn derbyn y Wisg Werdd, yn ogystal ag enillydd Gwobr Goffa Osborne Roberts ac enillwyr Cadair a Choron Eisteddfod yr Urdd.