Digwyddiadau i ddathlu'r Jiwbilî Diemwnt y Frenhines yng Nghymru

  • 3 Mehefin 2012
Y Frenhines Elizabeth II Image copyright Getty Images
Image caption Fe wnaeth y Frenhines a Dug Caeredin ymweld a Chymru yn Ebrill fel rhan o'r dathliadaujiwbilî diemwnt

Bydd nifer o bartïon yn cael eu cynnal a choelcerthi yn cael eu cynnau yn ystod y dyddiau nesaf yng Nghymru i ddathlu Jiwbilî Diemwnt y Frenhines.

Un o'r digwyddiadau mwy anarferol yw gorymdaith o gychod oddi ar arfordir Gwynedd.

Mae'r digwyddiadau swyddogol ac answyddogol yn nodi 60 mlynedd ers i'r Frenhines etifeddu'r Goron.

Dim ond y Frenhines Victoria sydd wedi teyrnasu am fwy o amser, 63 o flynyddoedd.

Mae hefyd disgwyl i nifer o bartïon gwrth-Frenhinol neu gwrth-Jiwbilî gael eu cynnal dros gyfnod gŵyl y banc.

Mae yna dros 300 o geisiadau wedi eu derbyn gan gynghorau Cymru er mwyn cau ffyrdd er mwyn caniatau partïon dathlu.

Yn ôl un grŵp gweriniaethol sy'n gwrthwynebu'r dathliadau dylid disodli'r Frenhinaeth ac ethol pennaeth y wladwriaeth.

Dywedodd Nick Wall o fudiad Republic wrth BBC Cymru: "Mae hwn yn sefydliad gyda lot fawr o rym gwleidyddol, ond rydym ni o'r farn y dylai grym gwleidyddol gael ei benderfynu yn y blwch pleidleisio ac nid drwy berthynas gwaed. "

Isod mae crynodeb o rai o brif ddigwyddiadau yng Nghymru.

Y Gogledd Orllewin

Image copyright (C) British Broadcasting Corporation
Image caption Fe wnaeth y Frenhines ymweld âChastell Caernarfon yn 2010

Yn Aberdyfi bydd yna orymdaith o fadau i nodi'r Jiwbilî.

"Rydym yn awyddus i sicrhau bydd y diwrnod yn cael ei gofio am flynyddoedd," meddai Christopher Taylor, un o'r trefnwyr.

"De ni'n gobeithio y bydd y cychod wedi ei haddurno'n addas fel bod yr afon yn llawn lliw."

Bydd y cychod yn cychwyn eu taith ar Afon Dyfi am 1.30pm ddydd Llun.

Yn ogystal â nodi'r Jiwbilî dywedodd y trefnwyr eu bod yn gobeithio y bydd yr achlysur yn denu ymwelwyr i'r pentref ac yn fodd i godi arian i'r RNLI.

Yn Llandudno bydd yna goelcerth yn cael ei chynnau ar Ben y Gogarth am 10.15pm ddydd Llun.

"Fe wnaethom ddefnyddio'r safle i nodi'r Jiwbilî Aur a'r Mileniwm ac mae'n rhan o nifer o goelcerthi ar hyd yr arfordir," meddai Terry Davis o Gyngor Tref Llandudno.

Yng Nghaernarfon bydd 1,910 o ddarnau arian yn nodi'r Jiwbilî cael eu rhoi i blant ysgol gan gyngor y dref.

Y Canolbarth

Image caption Bydd yna sgrin fawr yng Nghastell Powis, ger Y Trallwng

Ym Mhowys, mae'r cyngor wedi cymeradwyo cau 21 o ffyrdd ar gyfer partïon stryd i nodi'r achlysur.

Ond mae'r brwdfrydedd yn ymddangos yn llai yng Ngheredigion lle na chafwyd yr un cais ar gyfer cau ffyrdd ar gyfer partïon stryd.

Un o brif ddigwyddiadau ym Mhowys fydd diwrnod i'r teulu yng Nghastell Powis, ger Y Trallwng, ddydd Llun.

Yr Ymddiriedolaeth Cenedlaethol a Chyngor Tref Y Trallwng sy'n trefnu'r achlysur sy'n dechrau am 11am.

Yn ôl y trefnwyr, bydd stondinau a pherfformwyr yn rhoi naws 1952 i'r digwyddiad, a bydd yna sgrin fawr i ddangos dathliadau led led y Deyrnas Unedig.

Bydd yna wahanol ddigwyddiadau drwy'r wythnos yn nodi'r Jiwbilî yn Y Drenewydd.

Bydd cyngerdd proms yn y dref ddydd Mawrth ynghyd a pharti yn y stryd fawr a ras.

Bydd carnifal y dref ar Fehefin 9 gyda chystadleuaeth band arian a phres y diwrnod canlynol.

"Rydym yn disgwyl cryn dipyn o bobl i ymweld â'r Drenewydd ar gyfer y digwyddiadau yn ystod y Jiwbilî, " meddai John Whittacker, Cadeirydd pwyllgor y carnifal sydd hefyd yn trefnu cyngerdd y proms.

Bydd yna gyngerdd arbennig yn Eglwys Gadeiriol Aberhonddu.

Bydd y gerddoriaeth gyda chyswllt brenhinol gan gynnwys perfformiad o Zadok Yr Offeiriad gan Handel, a gafodd ei ganu yn ystod seremoni'r coroni yn 1952.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion iddyn nhw dderbyn un cais ar gyfer parti stryd yn Heol y Llan, Llanbadarn, Aberystwyth. Ond wedyn fod y cais wedi ei dynnu'n ôl.

Dydd Llun bydd coelcerth yn cael ei chynnau ar ben Craig y Glais yn Aberystwyth am 10pm.

Mae te parti wedi ei drefnu ar un o gaeau chwarae Llanrhystud, a bydd yna gerddoriaeth byw i'w ddilyn.

Y De Orllewin

Image copyright Stephen Morgan
Image caption Disgyblion Ysgol Gynradd Clase yng Nghinio Mawr y Jiwbilî yn Abertawe

Dywed Cyngor Abertawe eu bod wedi trefnu cyfres o ddigwyddiadau yng nghanol y ddinas rhwng 10am a 4pm ddydd Sadwrn.

Dydd Sul fel rhan o Ginio Mawr y Jiwbilî mae disgwyl i 200 o bobl gael bwyd yn Sgwâr y Castell rhwng 10.30am a 3.30pm.

Ar Fehefin 4 bydd coelcerth yn cael ei chynnau yng Nghastell Abertawe rhwng 10pm a 10.30pm

Fe fydd sgrin fawr yno i ddangos mannau eraill yn y Deyrnas Unedig yn dathlu yn ogystal â'r cyngerdd ym Mhalas Buckingham.

Does yna ddim digwyddiadau swyddogol wedi eu trefnu gan gynghorau sir Caerfyrddin a Sir Benfro, ond mae yna bartïon yn cael eu cynnal.

Bydd yna barti i gyd fynd a thanio coelcerth ar faes sioe Llwynhelyg ger Hwlffordd a fydd yn dechrau am 7pm ddydd Llun.

Bydd yna dân gwyllt yn Abaty Llandudoch, ger Aberteifi.

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi rhoi trwydded i elusen Tŷ Talcen Myddfai i gynnal tân gwyllt gyda dwy babell fawr i westeion yng nghartref Tywysog Cymru yn Llwynywermwd ar Fehefin 4.

Dywed y cyngor eu bod hefyd derbyn chwe chais ar gyfer cynnal digwyddiadau yn Llandeilo, Llanymddyfri, Abergwili, Bynea a Chwman.

Dywedodd llefarydd hefyd eu bod yn disgwyl nifer o bartïon gael eu cynnal mewn cu-de-sacs lle nad oedd angen caniatad y cyngor.

Y Gogledd Ddwyrain

Image caption Bydd coelcerth yn cael ei chynnau ar gopa Moel Famau, copa uchaf Bryniau Clwyd

Mae Cyngor Wrecsam wedi derbyn 15 o geisiadau i gau ffyrdd, gydag o leiaf wyth yn Sir y Fflint a chwech yn Sir Ddinbych.

Yn Y Rhyl bydd yna barti yn para pedwar diwrnod gan ddechrau ddydd Sadwrn yn y Marine Lake.

Bydd Stryd Fawr Yr Wyddgrug ar gau rhwng 10am a 10pm ddydd Mawrth gyda phatri naws y 50au yn cael ei gynal.

Hefyd bydd yna ddigwyddiadau yn Sgwâr Daniel Owen, gan gynnwys dawns te yn y pnawn a pharti roc a rôl yn y nos.

Yn Holt, pentref ar y ffin rhwng Wrecsam a Chaer bydd clychau Eglwys Sant Chad yn cael eu canu drwy gydol ddydd Llun.

Yn Sir y Fflint bydd Tîm achub a Chwilio Gogledd Ddwyrain Cymru yn cynnau coelcerth uchaf yr ardal ar ben Moel Famau, ger Yr Wyddgrug.

Mae yna dwr Jiwbilî ar gopa Moel Famau gafodd ei godi iâr achlysur Jiwbilî Aur Brenin Siôr III.

Bydd yna goelcerth hefyd yng ngwersyll hyfforddi Cinmel ger Y Rhyl.

Yno i wylio'r cyfan byd 125 o gadetiaid Clwyd a Gwynedd.

"Bydd y goelcerth yn caniatáu i'r cadetiaid fwynhau dathliadau ar gyfer ein Brenhines, rhywbeth y byddan nhw'n ei gofio," meddai'r is-gapten John Jones.

Y De Ddwyrain

Image copyright Getty Images
Image caption Gwnaed dros 300 o geisiadau i gau strydoedd ar gyfer partïon dathlu.

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi derbyn 58 cais i gau strydoedd, tra bod Cyngor Caerdydd wedi derbyn 40.

Mae prif ddathliadau Caerdydd yn dechrau ddydd Sul ar Ffordd Eglwys Fair gyda sgrin fawr yn dangos pasiant badau'r Jiwbilî ar Afon Tafwys.

Dydd Llun bydd coelcerth yn cael ei chynnau yng Nghastell Caerdydd, un o 2,012 o amgylch y Deyrnas Unedig.

Ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Llandaf ddydd Mawrth bydd picnic cymunedol i ddathlu'r achlysur.

Bydd picnic Pen-y-bont ym Mhlas Bryngawr a dywedodd y Cynghorydd Phil White fod y gymuned wedi dod at ei gilydd i rannu'r "cynnwrf a brwdfrydedd".

"Mae'n flwyddyn y Gemau Olympaidd a dwi'n meddwl dylid gwneud pob ymdrech i gyfeillio gyda'n cymdogion, mewn parti stryd neu hyd yn oed rhywbeth ar raddfa lai yn y cartref," meddai.

Yn ogystal â phartïon i ddathlu mae yna rai sy'n gwrthwynebu'r achlysur.

Yng Nghaerdydd ddydd Llun bydd Gweriniaethwyr yn cynnal parti gwrth Jiwbilî yn nhafarn y Globe, Ffordd Albany.