Y Fflam wedi teithio ar dir, môr a mynydd ar y pumed diwrnod

  • 29 Mai 2012

Mae'r Fflam Olympaidd wedi teithio ar ei phumed diwrnod o Fiwmares i Gaer.

Hwn oedd y diwrnod llawn olaf iddi fod yng Nghymru cyn mynd i rannau o Wrecsam a Phowys ddydd Mercher.

Mae 'na dipyn o amrywiaeth i daith y Fflam ddydd Mawrth wrth iddi gael ei chludo dros dir a môr ac i fan ucha'r daith gyfan.

Ar ôl cinio roedd hi'n anelu am drefi a phentrefi glan môr y gogledd ddwyrain cyn symud ymlaen i ardal ddiwydiannol Glannau Dyfrdwy.

Gadawodd hi Gymru am 5.50pm gan orffen ei thaith yng Nghaer.

Ond cychwynnodd y cyfan yng Nghastell Biwmares toc wedi 7am ac erbyn 10am roedd y Fflam ym man ucha' Cymru gyda Syr Chris Bonnington yn ei chludo i gopa'r Wyddfa.

Roedd 300 wedi cyrraedd y copa er mwyn gwylio'r digwyddiad.

Lorna Price oedd y cyntaf i gludo'r Fflam ddydd Mawrth gan gychwyn yng Nghastell Biwmares
Lorna Price oedd y gyntaf i gludo'r Fflam ddydd Mawrth gan gychwyn yng Nghastell Biwmares

Lorna Price, 15 oed o Amlwch, gafodd y fraint o gludo'r Fflam o Gastell Biwmares i ganol y dref.

Roedd torfeydd sylweddol wedi ymgasglu yn y dref i groesawu'r Fflam.

Wedi i Lorna ei throsglwyddo i Elen Evans fe gyrhaeddodd y Fflam yr Orsaf Bad Achub cyn cael ei chludo ar fad achub ar hyd Y Fenai i Borthaethwy ac yna ei chludo dros Bont y Borth.

'Anrhydedd'

Ar fad achub Atlantic 85 y cafodd ei chludo a pharodd y daith am 15 munud.

Dywedodd Eleri Davies o Sefydliad y Bad Achub ei bod yn "anrhydedd wych i'r orsaf".

"Maen nhw wedi bod yn gweithio'n galed iawn ar gyfer hyn ac mae'n gyfle i ddangos ein gallu a'n hoffer."

Am 8am fe groesodd y Fflam Y Fenai i'r tir mawr wrth i Mari Davies, 15 oed o Gerlan, Bethesda, ei chludo dros Bont Menai wrth i Hofrennydd Hawk o Ganolfan y Llu Awyr yn Y Fali hedfan uwchben.

Dywedodd ei mam wrth Radio Cymru ei bod yn falch iawn.

"Ond mi fydd hi'n mynd i'r ysgol rŵan - dyna'r fantais o wneud cymal mor gynnar yn y bore," meddai.

"Er o bosib y bydd wedi blino gan fod rhaid iddi wneud dwbl y cymal, dros y bont ac i fyny'r allt am Dreborth."

Miloedd

Cafodd y Fflam ei rhoi mewn lantern i'w chludo ar y trên i'r Wyddfa.

Yn ôl gohebwyr y BBC, roedd cannoedd wedi ymgasglu ar y mynydd yn ystod y bore.

Roedd miloedd yng Nghonwy i weld y rhedwyr, gyda disgyblion ysgol yn chwifio baneri.

Cafodd sawl person y cyfle i redeg drwy'r dref, heibio'r castell ac i mewn i Ddeganwy.

Aeth y Fflam yn ei blaen i Ben y Gogarth cyn mynd i lawr i Landudno ar gar cebl a theithio ar y prom wrth i sawl rhedwr gael y cyfle i gyfarch y Fflam.

Roedd miloedd eto ar y strydoedd gyda rhai yn gwylio'r orymdaith o ffenestri a thoeau gwestai'r dref.

Wedi adael Llandudno aeth y Fflam i Fae Penrhyn, Llandrillo-yn-Rhos a Bae Colwyn i Barc Eirias.

Yn ôl gohebwyr, roedd miloedd o bobl a phlant wedi ymgasglu yn y parc oriau cyn i'r Fflam gyrraedd.

"Mae nifer o'r plant wedi gwneud eu baneri Olympaidd eu hunain," meddai Kevin Leonard o BBC Cymru.

Beic

"Fe fydda i'n synnu os bydd mwy o sŵn yn y Stadiwm Olympaidd fis Gorffennaf."

Ar ôl Gadael Parc Eirias aeth drwy Hen Golwyn ac Abergele ac ymlaen i Dywyn a Bae Cinmel.

Un o'r rhai fu'n cludo'r ffagl drwy Abergele oedd Graeme Johnson, 69, oed o Ddiserth.

Cododd arian i'r NSPCC a Chymorth Cristnogol drwy reidio beic 1,423 o filltiroedd rhwng Land's End a John O'Groats.

Ym Mae Cinmel fe wnaeth Nicki Cockburn, 34 oed, o Landudno gario'r ffagl gyda chymorth ei chi tywys.

Cafodd ei geni'n ddall o ganlyniad i nam genetig.

Dywedodd y person wnaeth ei henwebu: "Bydd dal y ffagl yn rhoi ymdeimlad iddi ei bod yn rhan o rywbeth arbennig iawn.

Yn y Rhyl roedd miloedd ar strydoedd y dre i groesawu'r ffagl.

Disgyblion

Ar un pryd roedd deg o ddisgyblion ysgol uwchradd y dref -Emilie Revitt, Emily Thornton, Hal Shepherd, James Morgan, Rebecca Ogden, Beth Jamieson, Dylan Evans, Liam Roberts, Jacob Parry a Carl Higginson, yn rhannu'r fraint o gario'r fflam.

Gadawodd y ffagl sir Ddinbych ar ôl cael ei chario drwy strydoedd Rhuddlan.

Yna cyrhaeddodd Lannau Dyfrdwy, Cei Conna, Shotton, a Queeesnferry.

Ym Mhenarlâg cafodd y ffagl ei chario gan Charlotte Bryan y nofwraig o Abertawe.

Cymal olaf y daith yng Nghymru ddydd Mawrth oedd cyrraedd Saltney, pentre ar y ffin.

Ddydd Mawrth roedd 125 o redwyr wedi teithio bron 80 milltir.