Y Fflam: O Abertawe i Aberystwyth

Teithiodd y Fflam Olympaidd o amgylch de orllewin a chanolbarth Cymru ddydd Sul.

Fe gyrhaeddodd y Fflam Gymru ddydd Gwener ac fe gychwynnodd ar ei thaith am y trydydd diwrnod yn Y Mwmbwls.

Ers dydd Gwener mae wedi ymweld â phentrefi, trefi a dinasoedd yn y de ddwyrain cyn teithio ddydd Sadwrn o Gaerdydd i Abertawe.

Wedi cychwyn yn Y Mwmbwls a thrwy Abertawe ddydd Sul, mae'r Fflam wedi bod yn Llanelli, Porth Tywyn, Cydweli, Chaerfyrddin, Hwlffordd, Abergwaun, Trefdraeth, Aberteifi, Sarnau, Brynhoffnant, Llanarth, Aberaeron, Llanon, Llanrhystud ac Aberystwyth.

Un o'r prif atyniadau yn ystod y dydd oedd gweld y Fflam yn cael ei chludo gan gob Cymreig, Maesmynach Angerdd, yn Aberaeron.

Daeth y cyfan i ben ar Faes y Ficerdy yn Aberystwyth wrth i Kyle Thomson, 16 oed, oleuo'r grochan.

Wrth i'r Fflam gyrraedd tref Hwlffordd cyn cinio roedd 'na fand Jazz yn chwarae i'w chroesawu.

Ymhlith y rhai yn cludo'r Fflam drwy'r dref roedd criw o 10 o bobl ifanc, sy'n cynnwys Owen Miller, 20 oed sy'n un o brif redwyr anabl y byd.

Draig goch

Image copyright PA
Image caption Philip Richards gafodd y cyfle i gludo'r Fflam Olympaidd i Gastell Ystumllwynarth ddydd Sul wrth iddi deithio o Abertawe i Aberystwyth

Mae o eisoes wedi ennill medalau aur ac arian yn Gemau Arbennig y llynedd yn Athens.

Cafodd y fflam seibiant yn Hwlffordd cyn ailgychwyn am Abergwaun, lle'r oedd dros 6000 o bobl wedi ymgasglu, Aberteifi, Aberaeron ac Aberystwyth, pan gafodd rhedwyr eraill gyfle i deithio drwy'r dref.

Gyda thywydd braf mae'r torfeydd allan yn eu miloedd ar hyd y daith.

Roedd 10,000 o bobl ar strydoedd Caerfyrddin yn ôl swyddogion y cyngor a dywed gohebwyr BBC Cymru bod rhai miloedd o bobl wedi ymgasglu yno dros awr cyn i'r Fflam gyrraedd.

Wrth i Olga Phelps gludo'r Fflam dros y bont yng Nghaerfyrddin roedd 'na faner Y Ddraig Goch i'w gweld uwchben yr afon.

Dyfrig Môn oedd y cludwr olaf drwy Gaerfyrddin cyn i'r Fflam wneud y daith am Hwlffordd.

"Mae'n anhygoel gweld cymaint allan," meddai.

"Dwi wedi cael fy enwebu i gludo'r Fflam am fy ngwaith gyda'r clwb hwylio yn Y Mwmbwls a nôl adra' yn y gogledd.

"Mae'n anhygoel cael y profiad i fod yn rhan o'r cyfan."

Castell Cydweli

Roedd gohebydd BBC Cymru, Rebecca Hayes, yng Nghydweli i weld y Fflam yn pasio heibio'r Castell.

Image copyright PA
Image caption Cusan rhwng dwy ffagl y tu allan i Gastell Cydweli

"Yn anffodus doedd 'na ddim amser i'r Fflam fynd i'r Castell," meddai.

"Ond mae pobl leol wedi ymgasglu yn eu miloedd yma ac awyrgylch carnifal i'w gael yn y dref.

"Mae'r wên ar wynebau'r rhedwyr werth eu gweld, yn amlwg yn cael profiad bythgofiadwy."

Roedd miloedd o bobl allan ar hyd y brif stryd yn Y Mwmbwls i groesawu'r Fflam yn gynnar yn y bore.

Cafodd wythfed rhedwr y diwrnod, Paul Adams, y cyfle i gludo'r Fflam ar drên bach arbennig yn Y Mwmbwls i gyfeiriad Abertawe.

Fe aeth y Fflam i Gastell Ystumllwynarth hefyd tra yn Y Mwmbwls.

'Brwdfrydedd'

Wedi gadael Y Mwmbwls teithiodd drwy strydoedd Abertawe gyda'r dorf yn cynyddu i'w gweld.

Cafodd dros 20 o bobl gyfle i gludo'r Fflam yn yr ardal cyn iddi adael am Lanelli.

Image copyright PA
Image caption Cafodd y fflam ei chludo ar drên bach Y Mwmbwls

Yn eu plith yr oedd rhai sydd wedi bod yn gweithio gydag athletwyr ac athletwyr anabl a rhai sydd wedi bod yn codi arian at achosion da.

"Mae'r tywydd yn braf ac mae brwdfrydedd pobl sydd allan ar y stryd yn Abertawe yn rhyfeddol," meddai Iolo ap Dafydd sy'n dilyn y Fflam yn ystod y dydd.

"Mae'r diddordeb lleol yn amlwg iawn, gyda phobl yn dod o'u cartrefi i weld y Fflam yn pasio oherwydd bod 'na deimlad na fydd yn dod yma eto yn y dyfodol agos.

"Mae'r cysylltiad lleol yn bwysig hefyd gyda phobl wrth eu boddau yn gweld pobl maen nhw'n eu hadnabod a chysylltiad gyda'r Gemau drwy ymweliad Y Fflam."

Yn ôl datganiad gan Gyngor Sir a Dinas Abertawe, roedd y Fflam wedi denu bron i 60,000 o bobl i'r ddinas.

Miloedd

Fe wnaeth y Fflam gyrraedd yno cyn dathliad ym Mharc Singleton nos Sadwrn ac ail gychwyn o'r Mwmbwls fore Sul.

"Roedd tua 8,000 o bobl ym Mharc Singleton ar gyfer y cyngerdd," meddai llefarydd ar ran y cyngor.

"Ac roedd tua 10,000 o bobl wedi ymgasglu ar gyfer gweld y Fflam yn gadael Y Mwmbwls bore Sul am y ddinas ar ôl i tua 40,000 fod yn y ddinas ddydd Sadwrn."

Dywedodd Arglwydd Faer Abertawe, Ioan Richard, bod hi wedi bod "yn benwythnos gwych" yn y ddinas.

"Mae'n bosib y bydd yn ddegawdau cyn y daw'r Fflam i Brydain eto a dwi'n credu bod pobl wedi cymryd y cyfle i fod yn rhan o hanes."

O safbwynt milltiroedd, dyma'r diwrnod hiraf yn nhaith y Fflam yng Nghymru, gan ddilyn yr arfordir drwy siroedd Caerfyrddin, Penfro a Cheredigion.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.