Perchennog yn dod o hyd i aderyn ym Maesycymmer

  • 21 Mai 2012
Emiw
Roedd yr aderyn ar gwrs golff ger y Coed Duon

Mae perchennog wedi dod o hyd i aderyn mawr gafodd ei weld ar gwrs golff.

Roedd yr RSPCA wedi apelio am wybodaeth wedi i'r aderyn, rhea neu emiw, grwydro yn Bryn Meadows ger Maesycymmer yn Sir Caerffili.

Ofer oedd ymdrechion swyddogion y mudiad i ddal yr aderyn ddydd Sul.

Pan ddefnyddiodd swyddog goets golff ciciodd yr aderyn y swyddog cyn dianc.

Dywedodd Sophie Daniels o'r mudiad: "Doeddwn i ddim yn credu'r hyn oeddwn yn ei weld pan welais i'r aderyn.

"Pan es i allan yn y goets golff daeth yr aderyn draw ar y dechrau er mwyn cael bwyd ond, wrth i mi afael ynddo, fe giciodd mor galed fel yr oedd rhaid i fi ei ollwng."