Estyn: Sgiliau sylfaenol ddim yn dderbyniol yn nifer o ysgolion

  • 15 Mai 2012

Mae nifer o ysgolion yng Nghymru yn methu cynllunio yn ddigon da sut i ddatblygu sgiliau sylfaenol ymhlith disgyblion 11-14 oed yn ôl Estyn, Arolygiaeth Addysg a Hyfforddiant Cymru.

Daeth i'r casgliad bod nifer o ysgolion yn datblygu medrau llythrennedd a rhifedd disgyblion mewn Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Thechnoleg Gwybodaeth ond ddim mewn pynciau eraill.

Dydi tua 40% o ddisgyblion ddim yn gallu darllen cystal ag y dylen nhw wrth ddechrau'r ysgol uwchradd a dydi llawer ddim yn dal i fyny erbyn gadael yr ysgol.

Yn ei sesiwn holi yn y Senedd ddydd Mawrth, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones fod Llywodraeth Cymru "yn gweithio i fynd i'r afael â'r materion a godwyd yn yr adroddiad".

Ond dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru Kirsty Williams fod gweinidogion addysg y blaid Lafur yn y gorffennol wedi methu â mynd i'r afael â lefelau isel o lythrennedd.

Cafodd y Fframwaith Sgiliau ei sefydlu yn 2008 ar sail nad oedd yn statudol.

Fe wnaeth Prif Arolygydd Estyn, Ann Keane, gydnabod ei fod wedi codi ymwybyddiaeth am yr angen o ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy disgyblion sy'n "allweddol ar gyfer addysg a gyrfaoedd pobl ifanc yn y dyfodol".

'Medrau disgyblion'

Mae hi'n cydnabod nad yw wedi bod yn ddigon dylanwadol yng nghyfnod allweddol 3.

"Fe wnaethom ddarganfod mai dim ond ychydig ysgolion sy'n cynllunio'n llwyddiannus ar gyfer datblygu medrau disgyblion yn gynyddol ar draws y cwricwlwm, er bod gan bron pob ysgol rywun sydd â chyfrifoldeb am ddatblygu a gweithredu medrau," meddai.

Yn hytrach fe wnaeth Estyn ganfod bod ysgolion yn rhoi'r flaenoriaeth ucha' ar gynlluniau gwaith sy'n cyd-fynd a'r pynciau cwricwlwm cenedlaethol sy'n cael eu dysgu.

Dywedodd Anna Brychan, Cyfarwyddwr NAHT Cymru bod asesiad Estyn "yn gwbl gywir".

"Dwi ddim yn meddwl y dylen ni gael ein synnu gyda'r hyn sydd yma," meddai.

Dywedodd bod 'na ddwy broblem mewn gwirionedd.

"Mae ysgolion, yn ddigon rhesymol, yn cynllunio ac yn cyflwyno cwricwlwm y mae gwneuthurwyr polisi yn ddweud y dylai gael ei gyflwyno.

"Yn y cyd-destun hynny, dydi'r Fframwaith Sgiliau anstatudol wedi cael ei werthfawrogi neu ei fesur yn ddigon agos.

"Mae 'na ddiffyg manylder yn y Fframwaith ei hun.

"Dydi ysgolion ddim yn gallu gwneud popeth yn flaenoriaeth ...fe fyddai cynyddu proffil y Fframwaith yn ddi-os yn gychwyn ar drafodaeth am leihau pwysa rhywle arall.

"Fe fyddai'n werthfawr cael arweiniad clir ar yr hyn sydd bwysica'."

Ym mis Ionawr 2012 fe wnaeth adroddiad blynyddol Estyn ganfod bod 20% o ddisgyblion yn cyrraedd yr ysgol uwchradd gydag oed darllen o dan naw oed a chwe mis - y lefel sy'n cael ei dderbyn yn gyffredinol ar gyfer llythrennol yn gyffredinol.

Yr wythnos yma mae disgwyl i Leighton Andrews, Gweinidog Addysg Cymru, gyhoeddi rhaglen Llythrennedd Cenedlaethol.

Pryderon

Y bwriad yw creu newid yn y safonau llythrennedd dros y pum mlynedd nesaf.

Disgybl yn gwneud gwaith mathemateg
Angen gwella llythrennedd a rhifedd disgyblion

Yn ganolog i'r rhaglen y mae Fframwaith Cenedlaethol Llythrennedd a Rhifedd, a fydd, meddai Mr Andrews, yn sicrhau dysgu'r sgiliau sylfaenol yma ar draws yr holl bynciau yn y cwricwlwm.

Wrth ymateb i'r adroddiad diweddara a gyhoeddwyd ddydd Mawrth dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, eu bod yn ei groesawu ac yn cydnabod y pryderon a nodwyd.

"Drwy gynllun gwaith 20 pwynt y Gweinidog i wella safonau a pherfformiad addysg yng Nghymru, mae gennym fframwaith newydd ar gyfer llythrennedd a rhifedd ac rydym yn gweithio yn galed i ateb y materion."

Mae adroddiad Estyn yn amlinellu nifer o argymhellion ar gyfer ysgolion uwchradd, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru, gan gynnwys sicrhau bod datblygiad medrau'n cael ei gynllunio'n gynyddol drwy gydol cyfnod allweddol 3, yn ogystal â chael ei asesu a'i olrhain yn effeithiol.