Arbenigwr ar gyfreithiau Hywel Dda, Yr Athro Dafydd Jenkins, wedi marw

  • 8 Mai 2012
Yr Athro Dafydd Jenkins (llun trwy garedigrwydd y Llyfrgell Genedlaethol)
O 1975 hyd ei ymddeoliad yn 1978 roedd yn dal Cadair bersonol yn Hanes Cyfraith a Chyfraith Cymru

Bu farw'r Athro Dafydd Jenkins, arbenigwr ar gyfreithiau Hywel Dda.

Mewn datganiad, dywedodd y Llyfrgell Genedlaethol: "Roedd yn ymladdwr diwyro dros y Gymraeg.

"Roedd hefyd yn ddarllenydd a chefnogwr ffyddlon i'r Llyfrgell Genedlaethol am ddegawdau ers iddo ymaelodi â'r llyfrgell yn yr 1930au.

"Bu'n ŵr gwadd arbennig yn nathliadau canmlwyddiant gosod carreg sylfaen y llyfrgell y llynedd."

Chwaraeodd ran flaenllaw yn yr ymgyrch i gael statws cyfartal i'r iaith yn y llysoedd.

Ganed Yr Athro Jenkins yn 1911 yn Llundain i rieni o Geredigion ac addysgwyd ef yng Ngholeg Sidney Sussex, Caer-grawnt.

Cadair bersonol

Bu'n gweithio fel bargyfreithiwr yng Nghaerfyrddin ar ôl cael ei alw i'r bar yn 1934.

Ymunodd ag Adran y Gyfraith Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth yn 1965 ac o 1975 hyd ei ymddeoliad yn 1978 roedd yn dal Cadair bersonol yn Hanes Cyfraith a Chyfraith Cymru.

Y mae ei waith ar Hywel Dda yn cynnwys ei argraffiadau o Llyfr Colan (1963), Cyfraith Hywel (1970), a Damweiniau Colan (1973).

Y mae ei gyhoeddiadau eraill yn cynnwys y ddau lyfr taith Ar Wib yn Nenmarc (1951) ac Ar Wib yn Sweden (1959), a hanes llosgi'r ysgol fomio ym Mhenyberth, Tân yn Llyn (1937).

Cyhoeddodd gyfrol Y nofel: datblygiad y nofel Gymraeg ar ôl Daniel Owen yn 1948.

Sefydlodd a chyd-olygodd y cylchgrawn Heddiw gydag Aneirin Talfan Davies.

Bu farw ddydd Sadwrn.