Canlyniadau gorau Llafur Cymru er 1996

Mae Llafur Cymru yn dathlu gyda'u perfformiad gorau yn yr etholiadau lleol ers i'r cynghorau gael eu had-drefnu yn 1996.

Ar ôl colli cadarnleoedd yn 2008 mae Llafur wedi adennill cynghorau a nhw yw'r blaid fwyaf ym Mro Morgannwg, Wrecsam a Sir y Fflint.

Tra oedd Bro Morgannwg yn arwydd o lwyddiant y Ceidwadwyr yn 2008, erbyn hyn mae gan y Blaid Lafur ddwbl nifer y cynghorwyr Ceidwadol.

Mae Llafur nawr yn rheoli deg o gynghorau Cymru o'i gymharu â dau yn 2008.

Fe lwyddodd y blaid i ennill mwyafrif yn Abertawe, Casnewydd a Chaerdydd.

"Rydym wedi ennill seddau oddi wrth bob plaid ar draws y wlad, gydag enillion nodedig yn Wrecsam, Caerffili, Casnewydd, a chwalu'r Democratiaid Rhyddfrydol ym Merthyr," meddai Arweinydd Llafur Cymru, Carwyn Jones.

'Ail-gysylltu'

"Rydym wedi ail-gysylltu gyda phobl ac mae ein hymgyrch gymunedol wedi dylanwadu ar bleidleiswyr ar draws Cymru.

"Yn sicr, rydym wedi llamu ymlaen."

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru'r Wrthblaid, Peter Hain: "Yn gyffredinol, rydym wedi mynd â phleidleisiau oddi wrth y Torïaid ac mae hyn yn arwyddocaol.

"Rydym wedi adennill y bleidlais Gymreig oddi wrth Blaid Cymru a dyna'r allwedd i ennill yr etholiad cyffredinol."

Peter Hain
Hain: 'Wedi adennill y bleidlais Gymreig oddi wrth Blaid Cymru'

Wrth i Lafur gipio Caerdydd collodd arweinydd y cyngor, Rodney Berman o'r Democratiaid Rhyddfrydol, ei sedd ym Mhlasnewydd.

Yng Ngwynedd collodd Plaid Cymru reolaeth lwyr o'r cyngor gan ennill 37 o 75 sedd.

'Sefyllfa anodd'

Dywedodd AC Canol a Gorllewin Cymru, Simon Thomas, fod y blaid wedi sicrhau "ychydig o lwyddiannau" er bod y noson ar y cyfan yn "siomedig".

Roedd canlyniad Caerffili yn "siomedig," meddai, wedi i arweinydd y cyngor, Allan Pritchard, golli ei sedd.

"Mae angen bod yn fwy trylwyr a phroffesiynol ar lawr gwlad."

Plaid Cymru yw'r blaid fwyaf yn Sir Gaerfyrddin gyda 28 o gynghorwyr, ond heb fwyafrif.

Mae gan Lafur 23, y grŵp Annibynnol 22 a Gwerin Gyntaf 1.

Collodd y Ceidwadwyr eu gafael ar gynghorau Sir Fynwy a Bro Morgannwg

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr eu bod wedi "etifeddu sefyllfa anodd oherwydd llywodraeth glymblaid yn San Steffan a bod penderfyniadau anodd yn gorfod cael eu gwneud."

Erbyn i'r cyfri ddod i ben roedd gan Lafur 576 o gynghorwyr, Plaid Cymru 158, Ceidwadwyr 105 a'r Democratiaid Rhyddfrydol 71.

Roedd Llafur yn amddiffyn tua 340 o seddau, Plaid Cymru bron 200, y Ceidwadwyr 165 a'r Democratiaid Rhyddfrydol 140.