Lladrad: Cyhuddo dau ddyn

Mae Heddlu Gwent wedi cyhuddo dau ddyn mewn cysylltiad â lladrad o fwyty ym Mhentwyn-mawr ger y Coed-Duon.

Fe gafodd swm sylweddol o arian ei ddwyn o fwyty Taste of India nos Sul Ebrill 22.

Fe fydd dyn 21 oed o Grymlyn, ac un arall sy'n 23 oed o Bontllanfraith yn ymddangos gerbron ynadon Caerffili ddydd Llun.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101 neu ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111.