Taith Jiwbilî Y Frenhines yn y cymoedd

  • 27 Ebrill 2012
Y Frenhines yn Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen yn Aberfan
Agorodd Y Frenhines yr ysgol wrth fynd i Aberfan am y pedwerydd tro

Mae'r Frenhines wedi rhoi teyrnged i "ysbryd hynod" y Cymry a'u "cryfder".

Roedd ei sylwadau yng Nglyn Ebwy, yn unig araith gyhoeddus ei thaith â Chymru.

Agor adeilad newydd Ysgol Gynradd Gymunedol Ynysowen yn Aberfan yn swyddogol oedd ei thasg gyntaf ar ail ddiwrnod ei thaith Jiwbilî Ddiemwnt yng Nghymru.

Ar ôl gweld yr adeilad modern fe ddadorchuddiodd hi blac i gofnodi'r achlysur.

Hwn yw'r pedwerydd tro iddi fynd i Aberfan ers trychineb mis Hydref 1966.

Mae'r ysgol ger y fynwent lle claddwyd y rhai a laddwyd.

'Edrych i'r dyfodol'

Cafodd 144, gan gynnwys 116 o blant, eu lladd pan lithrodd tomen lo i lawr mynydd a chladdu ysgol a thai cyfagos.

Cafodd Y Frenhines a Dug Caeredin gyfle i sgwrsio gyda rhai gollodd anwyliaid yn 1966 yn ogystal â Jeff Edwards, y bachgen olaf i gael ei achub yn fyw o'r gweddillion

"Rhaid edrych i'r dyfodol ac ar y gwaith adfywio sydd wedi bod yma ar ôl y trychineb," meddai Mr Edwards.

"Wrth gwrs rhaid cofio'r genhedlaeth goll, ond mae'n rhaid canolbwyntio heddiw ar y dyfodol, plant y dyfodol a bod yma ysgol newydd ar eu cyfer."

Y Frenhines a dug Caeredin yn Aberfan yn 1966
Y Frenhines a Dug Caeredin yn Aberfan yn 1966

Wedi eu hymweliad ag Aberfan fe aethon nhw ymlaen i Lyn Ebwy lle bu'r Frenhines yn cyfarfod â nifer o'r rhai oedd wedi dod allan i'w cyfarch.

Yno cafodd y ddau gyfle i gyfarfod â chyn-weithwyr dur a gwirfoddolwyr amgueddfa sydd newydd ei hadnewyddu, Y Swyddfeydd Cyffredinol lle mae Archifdy Gwent.

Bu'r ddau hefyd mewn gwasanaeth yn Eglwys Crist y dref cyn cael derbyniad gyda grwpiau cymunedol.

Yng Nglyn Ebwy y gwnaeth y Frenhines ei hanerchiad oedd yn dweud ei bod hi a Thywysog Philip yn falch o fod yno.

"Rydych wedi tystio i nifer o newidiadau mawr yng Nghymru dros y blynyddoedd diweddar," meddai.

"Dwi wedi teithio ar hyd a lled Cymru yn ystod y 60 mlynedd diwethaf.

"Mae'r Tywysog Philip a fi wedi rhannu yn eich llawenydd a'ch tristwch yng Nghymru dros y blynyddoedd ac mae'r ymdeimlad o falchder ac optimistiaeth heb ei hail wedi cael argraff arnom.

"Mae ysbryd arbennig y Cymry i'w weld yma yn y cymoedd heddiw."

Daeth yr ymweliad i ben gyda gŵyl "Diemyntau yn y Parc" ym Mharc Glanwysg ddydd Gwener.