Snwcer: Mark Williams i herio Ronnie O'Sullivan yn ail rownd Pencampwriaeth y Byd.

  • 26 Ebrill 2012
Mark Williams Image copyright Getty Images
Image caption Mark Williams oedd pencampwr y byd yn 2000 a 2003

Bydd Mark Williams yn herio Ronnie O'Sullivan yn ail rownd Pencampwriaeth y Byd wedi i'r Cymro guro Liu Chuang o China 10-6 nos Iau.

Roedd Williams 6-3 ar y blaen ar ôl sesiwn gynta'r ornest ac enillodd ffrâm agoriadol yr ail sesiwn gyda rhediad o 72.

Enillodd Williams, sydd wedi ennill y bencampwriaeth ddwywaith yn 2000 a 2003, y ddwy ffrâm nesaf oedd yn golygu ei fod angen un ffrâm arall i gyrraedd yr ail rownd.

Ond tarodd Liu Chuang yn ôl gan ennill tair ffrâm o'r bron gan gynnwys rhediadau o 50 a 53.

Ond ni sgoriodd y chwaraewr o China yr un pwynt yn y ffrâm nesaf wrth i Williams ddominyddu'r chwarae ac ennill y ffrâm 76-0.

Mae Williams yn ymuno a thri o Gymry sydd eisoes yn yr ail rownd, Jamie Jones, Matthew Stevens a Ryan Day.

Bydd Williams yn herio O'Sullivan, enillodd Pencampwriaeth y Byd yn 2001, 2004 a 2008, ddydd Sadwrn nesaf.

Bydd Ryan Day yn dechrau ei gêm yn ail rownd y Bencampwriaeth yn erbyn Cao Yupeng o China am 2.30pm Ddydd Gwener.

Canlyniad dydd Iau Ebrill 26:

Mark Williams 10-6 Liu Chuang (Sesiwn 1)

1-76 (51), 74-36, 40-70, 66-42 (57), 76-0, 44-64, 68-26, 72-56 (72), 111-0 (111), 73-0 (72), 68-57, 98-0, 46-68 (50), 41-52, 43-74 (53), 76-0.

Straeon perthnasol