Ynys Môn: Ffrae am gytundeb torri gwair yn ffyrnigo

Swyddfeydd Cyngor Môn
Doedd y cynghorydd sydd â chyfrifoldeb am y gwaith ddim yn gwybod am y cytundeb newydd

Mae'r cytundeb i dorri gwair yn ysgolion Ynys Môn wedi ei wobrwyo i gwmni o Sir Gaerhirfryn, ond doedd y cynghorydd sydd â chyfrifoldeb am yr adran ddim yn gwybod hynny.

Roedd y cytundeb presennol gydag Adran Priffyrdd Gwynedd wedi cael ei ymestyn tan ddiwedd y mis ar ôl gwrthwynebiad gan brifathrawon yr ynys.

Roedden nhw'n anhapus wrth glywed bod cwmni Glendale Grounds Management Ltd. wedi cael y cytundeb gwerth £200,000 y flwyddyn ac fe wnaethon nhw wrthod caniatáu mynediad i'r cwmni i dir yr ysgolion.

Dywedodd y prifathrawon y dylai'r cytundeb fod wedi aros o fewn yr economi leol.

Comisiynwyr

Datgelodd rhaglen Post Cyntaf ar BBC Radio Cymru ddydd Iau nad oedd y cynghorydd sy'n gyfrifol am yr adran a roddodd y cytundeb yn gwybod am y mater.

Mae cyngor yr ynys dan ofal comisiynwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru i geisio dod â diwedd i flynyddoedd o anghytuno gwleidyddol yno.

Dywedodd y cynghorydd mai'r Comisiynwyr oedd â'r penderfyniad terfynol yn y mater yma.

Nawr mae pump o gynghorwyr yr awdurdod wedi galw am gyfarfod brys i drafod y mater, gan ddweud eu bod yn flin na fu ymgynghori gyda nhw ac nad oedden nhw'n ymwybodol o'r cytundeb torri gwair.

Ond erbyn i'r cyfarfod hwnnw ddigwydd, fe fydd y cytundeb newydd gyda Glendale mewn grym, ers Mai 1.

Dywedodd un o'r cynghorwyr ei fod dan yr argraff bod y comisiynwyr wedi eu galw i mewn i ofalu am fuddiannau pobl Ynys Môn, a'i fod yn amau os ydi caniatáu i gytundeb sylweddol fel hyn adael yr ynys yn gwneud hynny.

Credir bod y cytundeb yn para am chwe blynedd, ac felly yn werth oddeutu £1.2 miliwn.

Rheolau Ewrop

Roedd Cyngor Sir Ynys Môn eisoes wedi dweud nad oedd ganddyn nhw ddewis oherwydd rheolau Ewropeaidd ond i hysbysebu'r cytundeb ar draws Ewrop.

Ond mae nifer o'r farn y gellid fod wedi osgoi gwneud hynny petai'r cytundeb wedi ei rannu yn gytundebau llai ar sail gwahanol ardaloedd.

Dywedodd un prifathro wrth y Post Cyntaf ei fod yn siomedig gyda'r penderfyniad.

Ond roedd hefyd yn cadarnhau y byddai'n rhaid cydymffurfio â'r cytundeb.

Roedd y penaethiaid wedi ystyried cyflogi pobl leol eu hunain i wneud y gwaith.

Ond ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol, fe gadarnhaodd na fyddai hynny'n bosibl.

Mae BBC Cymru wedi gofyn am ymateb gan Lywodraeth Cymru.