Cwmni yswiriant Zurich yn cwtogi 342 o swyddi o bum swyddfa yn y DU

Mae cwmni yswiriant Zurich wedi cadarnhau y bydd 342 o swyddi yn cael eu colli mewn pump o swyddfeydd yn y DU.

Fe fydd y mwyafrif o swyddi yn mynd o'r pencadlys yn Whiteley, yn Sir Hampshire, ac mae 'na fygythiad i swyddi staff yng Nghaerdydd, Farnborough, Glasgow a Leeds.

Dywedodd y cwmni hefyd eu bod yn bwriadu colli 51 o swyddi eraill yn eu canolfan alw yn Pune, India erbyn 2014.

Yn ôl y cwmni, mae'r diswyddiadau o ganlyniad i ailstrwythuro ar ôl i'r cwmni lansio pecyn yswiriant car arlein a fydd yn cychwyn y flwyddyn nesaf.

Mae'r cwmni yn dweud y bydd mwyafrif y colledion o ganlyniad i ad-leoli a diswyddiadau gwirfoddol.

"Rydym yn cydnabod bod y newidiadau yn golygu neges anodd iawn i rai o'n staff," meddai Karl Bedlow, un o gyfarwyddwr Zurich.

"Ond rydym eisiau gwneud yn siwr ein bod yn gallu bod yn hyblyg ac addasu i'r newidiadau cyson yn y farchnad."