Snwcer: Dominic Dale yn colli yn erbyn Judd Trump

  • 25 Ebrill 2012
Judd Tump a Dominic Dale
Er gwaetha salwch stumog llwyddodd Judd Trump i guro'r Cymro Dominic Dale o 10-7

Mae Dominic Dale wedi methu sicrhau ei le yn Ail Rownd Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffiled.

Fe wnaeth Judd Trump, a gollodd yn y rownd derfynol y llynedd, lwyddo yn erbyn styfnigrwydd y Cymro i gyrraedd yr Ail Rownd 10-7 yn y Crucible ddydd Mercher.

Wedi'r sesiwn gyntaf ddydd Mawrth a orffennodd yn 5-4 i Trump fe gollodd y ddwy ffrâm agoriadol cyn cael rhediad o 114 i ddod yn gyfartal 6-6.

Daeth Dale yn ôl gyda rhediad o 80 cyn i Trump ddod a'r gêm yn gyfartal eto gyda rhediadau o 51 a 40, 7-7.

Ond Trump lwyddodd i ennill y tair ffrâm olaf.

Fe fydd Trump yn wynebu unai Ali Carter neu Mark Davis.

Mark Williams

Ar y bwrdd arall roedd y Cymro Mark Williams yn chwarae yn erbyn Liu Chuang.

Wrth gyrraedd y theatr fe wnaeth aelodau o'r gynulleidfa wawdio'r Cymro wedi ei sylwadau sarhaus am y Crucible ar wefan Twitter ddiwrnod cyn i'r Bencampwriaeth ddechrau.

Collodd Williams, sydd wedi ennill y bencampwriaeth ddwywaith yn 2000 a 2003, y ffrâm agoriadol.

Ond enillodd yr ail cyn i Liu ennill y drydedd.

Ond daeth y Cymro'n ôl yn gyfartal wedi pedair ffrâm.

Williams enillodd y nesaf cyn i Liu ennill ei drydedd.

Ond fe enillodd Williams y dair nesaf, y nawfed ffrâm gyda rhediad o 111.

Y Cymro sydd a'r fantais ar ddiwedd y sesiwn gyntaf, gan angen pedair ffrâm i gyrraedd yr ail rownd ag ymuno a thri o Gymry sydd eisoes yno, Jamie Jones, Matthew Stevens a Ryan Day.

Mae cadeirydd Snwcer y Byd, Barry Hearn, wedi rhybuddio y gallai Williams wynebu gwaharddiad ar ôl sylwadau a wnaeth am Y Crucible ar wefan Twitter.

Canlyniadau dydd Mercher Ebrill 25:

Rownd 1

Judd Trump 10-7 Dominic Dale(Sesiwn 2)

57-59, 85-0 (57), 16-89 (59), 33-76 (75), 69-37 (54), 66-31 (54), 28-76 (68), 74-7, 121-1 (53, 68), 5-71, 40-70, 115-1 (114), 1-80 (80), 91-23, 64-16, 72-60

Mark Williams 6-3 Liu Chuang (Sesiwn 1)

1-76 (51), 74-36, 40-70, 66-42 (57), 76-0, 44-64, 68-26, 72-56 (72), 111-0 (111)

Fe fydd y gêm yn parhau am 7pm ddydd Iau