Manylion y gic gynta' Olympaidd yng Nghaerdydd

  • 24 Ebrill 2012
Gareth Bale
Mae Gareth Bale yn un o chwaraewyr Cymru sydd ar y rhestr fer hir ar gyfer tîm pêl-droed Olympaidd Prydain

Y digwyddiad cyntaf yng Ngemau Olympaidd Llundain 2012 fydd gêm bêl-droed y merched rhwng Prydain a Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd ar Orffennaf 25, gyda'r gic gyntaf am 4pm.

Dridiau'n ddiweddarach, ar Orffennaf 28, bydd merched Prydain yn ôl yn y Stadiwm i wynebu Cameroon ac fe fydd y merched hefyd yn wynebu Brasil yn y grŵp.

Bydd tîm y dynion yn herio Uruguay yng Nghaerdydd ar Awst 1, y gêm i ddechrau am 7.45pm.

Yn ogystal ag Uruguay, bydd dynion Prydain yn wynebu Senegal a'r Emiraethau Unedig Arabaidd yn y gemau grŵp.

Ymhlith y chwaraewr sydd wedi'u henwi ar y rhestr fer hir ar gyfer tîm pêl-droed Olympaidd Prydain y mae sêr Cymru, Gareth Bale a Craig Bellamy.

Petai Bellamy yn cael ei ddewis, gallai wynebu un o'i gyd-chwaraewyr yn Lerpwl yn y gêm agoriadol - bydd Luis Suarez yn chwarae i dîm Uruguay.