Snwcer: Jamie Jones i herio Higginson

Mark Williams Image copyright PA
Image caption Gall Mark Williams wynebu gwaharddiad ar ôl ei sylwadau ar wefan Twitter

Bu dau o Gymry yn cystadlu ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd ddydd Mawrth.

Roedd Dominic Dale yn wynebu Judd Trump o Loegr wrth i Ryan Day wynebu Ding Junhui o China.

Mae gan Day fantais ar ddiwedd y sesiwn gyntaf o un ffrâm tra bod Dale un ffrâm y tu ôl i Trump.

Eisoes mae dau o Gymry, Matthew Stevens a Jamie Jones, wedi sicrhau eu lle yn yr Ail Rownd ar ôl ennill yn erbyn Marco Fu a Stephen Maguire ddydd Llun.

Bydd Stevens yn chwarae yn erbyn enillydd yr ornest rhwng Mark Selby a Barry Hawkins ac fe fydd Jones yn chwarae yn erbyn Andrew Higginson wedi i hwnnw guro Stephen Lee 10-6 nos Fawrth.

Bydd y ddwy gêm yn cael eu cynnal ar Ebrill 29 a 30.

Fe fydd Mark Williams yn cystadlu ddydd Mercher.

Canlyniadau dydd Mawrth Ebrill 24:

Rownd 1 (Sesiwn 1)

Judd Trump 5-4 Dominic Dale

57-59, 85-0 (57), 16-89 (59), 33-76 (75), 69-37 (54), 66-31 (54), 28-76 (68), 74-7, 121-1 (53, 68)

*Fe fydd y gêm yn ail ddechrau am 2.30pm ddydd Mercher.

Ding Junhui 4-5 Ryan Day

69-39, 27-106, 79-0, 8-78 (77), 100-0 (100), 21-76, 7-75, 46-66, 76-4 (53)

*Fe fydd y gêm yn parhau am 10am ddydd Mercher.

Straeon perthnasol