Rudy Gestede yn arwyddo cytundeb newydd gyda Chaerdydd

  • 20 Ebrill 2012
Rudy Gestede
Rudy Gestede yn cael ei daclo gan Martin Skrtel o Lerpwl yn Wembley yn rownd derfynol Cwpan Carling

Mae Rudy Gestede wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda Chaerdydd.

Fe fydd yn aros gyda'r Adar Gleision tan ddiwedd tymor 2013-14.

Fe wnaeth y Ffrancwr 23 oed ymuno gyda'r clwb ar drothwy tymor 2011-12.

Mewn 24 o ymddangosiadau i'r clwb yn y Bencampwriaeth mae o wedi sgorio dwywaith.

Roedd 19 o'r ymddangosiadau fel eilydd.

"Mae Gestede wedi arwyddo ymestyniad i'w gytundeb," meddai datganiad ar ran y clwb.

Anafiadau

Dywedodd cyn-chwaraewr rhyngwladol Ffrainc o dan 21 oed ei fod yn falch iawn o arwyddo'r cytundeb.

"Dwi'n edrych ymlaen at chwarae fy rhan yn nyfodol y clwb.

"Dwi wedi cael tymor eitha' da er gwaeth rhai anafiadau sydd wedi bod yn rhwystredig."

Dywedodd ei fod yn agos at fod yn gwbl iach a'i fod yn gobeithio chwarae ei ran yn y gemau ail-gyfle a thu hwnt.

Mae 'na amheuaeth a fydd Gestede ar gael i chwarae ddydd Sadwrn yn erbyn Leeds United yn Stadiwm Dinas Caerdydd oherwydd anaf i'w ffêr.