Milwr o Gasnewydd wedi marw o'i anafiadau

Connor Ray
Cafodd Connor Ray ei anafu ddiwrnod cyn ei benblwydd yn 21 oed

Mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cadarnhau bod milwr o Gasnewydd wedi marw o'r anafiadau gafodd o wedi digwyddiad yn Afghanistan yr wythnos diwethaf.

Roedd Connor Ray yn 21 oed.

Bu farw ddydd Mercher yn Ysbyty'r Frenhines Elizabeth yn Birmingham.

Roedd yn aelod o Gatrawd 33 y Peirianwyr.

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn roedd yn rhan o ymgyrch clirio ar Ebrill 11 yn ardal Nad 'Ali yng nghanol Helmand.

Cafodd ei ddisgrifio fel "milwr ifanc hapus a oedd â dyfodol llewyrchus o'i flaen".

Roedd yn broffesiynol ac yn ddibynadwy yn ogystal â chael ei barchu gan bawb yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae'n gadael brawd, Vinnie; llys-dad Steve; chwiorydd Hollie, a Bonnie a'i gariad Hollie.

Mewn datganiad dywedodd ei deulu eu bod wedi dychryn a'u tristau o glywed am ei farwolaeth.

'Arwr'

"Rydym i gyd yn hynod falch o Connor," meddai'r teulu.

"Cafodd ei anafu ddydd Mercher diwethaf, noswyl ei benblwydd yn 21ain oed.

"Mae o bellach yn y nefoedd efo Mam.

"Fe fyddwn ni'n cofio ei gariad at fywyd, ei synnwyr digrifwch ac yn gwerthfawrogi'r amser byr y bu yn ein bywydau.

"Roedd wrth ei fodd yn y fyddin a gwnaeth ffrindiau arbennig.

"Roedd Connor yn arwr i'r teulu i gyd ac i'w ffrindiau."

Bwriad yr ymgyrch yr oedd yn rhan ohono yn Afghanistan oedd clirio safle a oedd yn cael ei ddefnyddio yn y gorffennol gan wrthryfelwyr gan ganiatáu i bobl leol ddychwelyd i ardal ddiogel.

Yn ystod yr ymgyrch cafodd ei anafu yn ddifrïol ac fe dderbyniodd driniaeth feddygol yn Camp Bastion cyn cael ei drosgwlyddo i'r ysbyty yn Birmingham.

Cychwynnodd ei yrfa filwrol ym mis Ionawr 2008 yng Ngholeg y Fyddin yn Harrogate.

Gwaith arbenigol

Ymunodd gyda'r Peirianwyr Brenhinol ym mis Mehefin 2009 cyn ymuno gyda'r gatrawd ym mis Ebrill 2010.

Roedd ei waith yn un arbenigol.

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn ei fod o a'r tîm wedi gwneud gwaith peryglus pwysig a oedd yn ddi-os wedi arbed nifer o fywydau Prydeinwyr a phobl Afghanistan.

Dywedodd yr Is-gyrnol Simon Bell, o Gatrawd 33 Y Peirianwyr, bod marwolaeth drasig Mr Ray wedi ysgwyd y gatrawd.

"Ar adeg anodd iawn, mae'n meddyliau a'n cydymdeimlad gyda'i deulu a'i lu ffrindiau.

"Roedd yn filwr ifanc penderfynol a phositif.

"Roedd ganddo'r gallu naturiol i annog ac ysbrydoli eraill.

"Roedd y dyfodol yn un llewyrchus iddo.

"Rydym wedi colli milwr ifanc ysbrydoledig heddiw."