Chris Coleman ddim yn ymwybodol o gytundeb

  • 19 Ebrill 2012
Gareth Bale and Craig Bellamy Image copyright Getty Images
Image caption Mae enwau Bale a Bellamy ymysg 80 fydd yn cael eu hystyried i garfan Team GB

Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, wedi dweud nad yw'n ymwybodol o gytundeb fyddai'n caniatáu i rhai o'i garfan fod yn rhan o dîm Prydain yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.

Mae Prif Weithredwr Cymdeithas Olympaidd Prydain, Andy Hunt, wedi honni bod o leiaf dau Gymro wedi cytuno i gynrychioli Prydain yn y Gemau.

Dywedodd Hunt bod Craig Bellamy a Gareth Bale wedi cytuno i chwarae gyda sêl bendith eu clybiau, ond dywed Coleman nad yw'n ymwybodol o gytundeb o'r fath.

"Yn ddelfrydol, fyddwn i ddim am i unrhyw un o'n chwaraewyr ni fod yn rhan o'r peth," meddai Coleman.

"Mae mwyafrif y clybiau yr wyf wedi siarad â nhw, neu reolwyr y byddaf yn trafod gyda nhw, ddim yn hapus am y peth.

"Yn amlwg mae'r clybiau sydd wedi siarad gyda nhw yn hapus neu fydde'r Gymdeithas ddim wedi cyhoeddi datganiad fel yna."

Annibyniaeth

Mae enwau Bale a Bellamy, ynghyd â David Beckham, ar restr o 80 o chwaraewyr sydd wedi cael gwybod gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr eu bod yn cael eu hystyried i fod yn rhan o'r garfan derfynol o 18.

Mae Cymdeithasau Pêl-droed Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn poeni y bydd TEAM GB yn bygwth eu hannibyniaeth.

Er bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn gwrthwynebu'r egwyddor o'u chwaraewyr yn chwarae yn y Gemau Olympaidd, maen nhw wedi dweud na fyddan nhw'n rhwystro unrhyw un rhag cymryd rhan.

Yn flaenorol roedd Bale a chapten Cymru, Aaron Ramsey, wedi datgan eu dymuniad i chwarae yn y Gemau, ac fe gafodd y ddau dynnu eu lluniau yn gwisgo crysau cefnogwyr TEAM GB.

Pedwar diwrnod

Ond poeni mae Coleman y bydd y Gemau Olympaidd yn cael effaith ar ei baratoadau ar gyfer rowndiau rhagbrofol Cwpan Y Byd sy'n dechrau ym mis Medi.

Fel rhan o'r paratoadau ar gyfer y gêm gyntaf yn erbyn Gwlad Belg, bydd Cymru'n herio Bosnia-Herzegovina mewn gêm gyfeillgar ar Awst 15 - bedwar diwrnod wedi rownd derfynol cystadleuaeth bêl-droed y Gemau Olympaidd yn Wembley.

Ychwanegodd Coleman: "Rwy'n deall bod chwaraewyr am fod yn rhan o'r Gemau - wrth gwrs mae hynny'n brofiad sydd ond yn digwydd unwaith mewn oes efallai.

"Rydym wedi sylweddoli y gallai rhai o'n chwaraewyr fod yn y garfan - dyw hynny ddim syndod.

"Ond fedra i ddim dweud fy mod i'n hapus am y ffaith os fyddan nhw'n cyrraedd y rownd derfynol fod gennym gêm bwysig bedwar diwrnod yn ddiweddarach.

"Ond does dim y gallwn ni wneud am y peth. Mae'n rhaid i ni fwrw 'mlaen."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.