Anrhydeddu'r hyfforddwraig dawnsio gwerin, Eirlys Britton

  • 16 Ebrill 2012
Eirlys Britton (llun gan yr Eisteddfod)
Mae Eirlys Britton wedi cyfrannu am flynyddoedd i weithgareddau yn ardal Pontypridd

Hyfforddwraig dawnsio gwerin, athrawes ac actores sy'n derbyn Medal Goffa Syr T H Parry-Williams eleni yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg.

Yn wreiddiol o Gaerdydd mae Eirlys wedi gwneud "gwaith diflino yn ardal Pontypridd" am dros 30 mlynedd.

Mae'r fedal yn cael ei chyflwyno i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol yn eu hardal leol, yn enwedig wrth weithio gyda phobl ifanc.

Yn benodol, mae Eirlys yn enwog am ei gwaith ym myd dawnsio gwerin.

Roedd hi'n un o ddisgyblion cyntaf Ysgol Rhydfelen, Pontypridd, cyn graddio mewn Drama yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Bu'n athrawes egnïol a dylanwadol yn Ysgol Heol y Celyn ger Pontypridd cyn portreadu Beth Leyshon yn y gyfres Pobol y Cwm am flynyddoedd.

Prif wobr

Dechreuodd ei diddordeb mewn dawnsio gwerin pan oedd yn athrawes yn Ysgol Heol y Celyn lle oedd yn llwyddiannus fel hyfforddwraig llefaru (iaith gyntaf ac ail iaith), dawnsio a chaneuon actol.

Dawnswyr Nantgarw
Mae Dawnswyr Nantgarw wedi ennill nifer o wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol

Arweiniodd y diddordeb at sefydlu Dawnswyr Nantgarw gyda chydweithwyr a staff yr ysgol yn 1980.

Mae'r tîm dawnsio gwerin wedi cipio'r brif wobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol 13 o weithiau ac mae'r Dawnswyr hefyd wedi ennill gwobrau mewn cystadlaethau eraill ar hyd y blynyddoedd, gan gynnwys yr Ŵyl Ban Geltaidd, Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen a chystadlaethau Dawnsio Gwerin y Byd ym Mallorca.

Hefyd sefydlodd hi Dawnswyr Nantgarw Bach, parti arbennig ar gyfer pobl ifanc, a dyma'r parti cyntaf erioed i ennill cystadleuaeth dawnsio i ieuenctid Eisteddfod Rhyngwladol Llangollen.

Bwriad Eirlys wrth sefydlu Dawnswyr Nantgarw oedd atgyfodi rhai o hen draddodiadau a dawnsfeydd Cwm Taf a Morgannwg i'r safon uchaf a hynny wrth gynnwys Cymry Cymraeg a Chymry di-Gymraeg.

Bu'r ddawns yn gyfrwng delfrydol i bontio gwahaniaethau ieithyddol a chefndiroedd cymdeithasol, ac yn gyfle i feithrin cerddorion ifanc wrth eu hannog i ymuno gyda cherddorion profiadol, gan gynnig cyfleoedd a phrofiadau cofiadwy wrth hyrwyddo traddodiad a chynrychioli'u gwlad.

'Yn werthfawr'

Cliff Jones ac Eirlys Britton
Cafodd Eirlys Britton a'i gŵr Cliff Jones eu hurddo i'r Orsedd yn Eyri yn 2005

Hi greodd y ddawns ar gyfer seremoni'r Prif Lenor yn yr Eisteddfod Genedlaethol ychydig o flynyddoedd yn ôl ac ers hynny mae'r ddawns wedi'i defnyddio bob blwyddyn, gan roi cyfle i ieuenctid dalgylch yr Eisteddfod ddangos eu doniau ar lwyfan y Pafiliwn.

"Mae ei chyfraniad i fywyd diwylliannol ei hardal a Chymru yn hynod werthfawr a'i brwdfrydedd yn crisialu amcanion Cronfa Goffa Syr T H Parry-Williams," meddai'r Eisteddfod.

"Trwy hynny, mae'n llawn haeddu derbyn y fedal er clod eleni."

Fe fydd Eirlys yn derbyn y fedal ar lwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Morgannwg sy'n cael ei chynnal ar dir hen Faes Awyr Llandŵ rhwng Awst 4 ac 11.

Ei brawd hi yw Charlie Britton, cyn-ddrymiwr Edward H Dafis.