Grwpiau dros Gymru'n plannu blodau gwyllt

Cae blodau
Bydd grwpiau dros Gymru'n cymryd rhan yn yr ymgyrch newydd

Bydd bron 400 metr sgwâr o ddolydd blodau gwyllt yn cael eu hau yng Nghymru'r penwythnos hwn.

Mae'n rhan o ymgyrch gan y Royal Horticultural Society sydd yn anelu at geisio adfer ychydig o'r 97% o ddolydd blodau sydd wedi eu colli yng Nghymru a Lloegr ers 1930.

Bydd 37 o grwpiau ac ysgolion yng Nghymru yn cymryd rhan yn y prosiect.

Un ohonynt yw'r grŵp Ffrindiau Parc Acton yn Wrecsam.

'Ychwanegu at fioamrywiaeth'

Dywedodd Christine Cribbin, aelod o'r grŵp, eu bod yn edrych ymlaen at hau'r blodau.

"Dwi'n meddwl y bydd y blodau yn annog bywyd gwyllt ac yn denu gloÿnnod byw a phryfed i'r parc," meddai.

"Byddant yn ychwanegu at fioamrywiaeth y parc."

Dywedodd Ms Cribbin y byddai plant o ysgolion lleol yn helpu i hau'r blodau.

Cymysgedd o hadau fydd yn cael eu hau gan gynnwys hadau pabi'r ŷd, melyn yr ŷd a chamri'r ŷd.

'Ailddarganfod ein cariad'

Mae Sarah Raven yn cyflwyno rhaglen Bees, Butterflies and Blooms ar y BBC ac yn cefnogi'r ymgyrch.

"Rydym yn y broses o ailddarganfod ein cariad tuag at flodau gwyllt," meddai.

"Oherwydd ein bod wedi dinistrio cymaint o'u cynefin naturiol mae'n hanfodol ein bod yn adfer cymaint o flodau ag sydd bosibl.

"Mae ein pryfed wedi datblygu i fwydo oddi wrthynt ac wrth inni ddinistrio mwy o ddolydd bydd poblogaethau pryfed yn parhau i leihau ac mae hyn yn drychinebus i'r blaned."

Unwaith bydd y blodau wedi agor bydd grwpiau'n gallu recordio'r nifer o bryfed maent yn gweld arnynt mewn arolwg ar-lein wedi ei greu gan y Royal Horticultural Society a'r elusen gadwraeth Buglife.